Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yw'r gorau yng Nghymru unwaith eto

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei enwebu’r cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru am y bumed flwyddyn yn olynol.

 

  • Dydd Mercher, 04 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



06461 - Best Perform banner size
Bob blwyddyn, mae Data Cymru’n cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad awdurdodau lleol ynghylch amrywiaeth o wasanaethau. Yna, gellir cymharu perfformiad 22 awdurdod lleol Cymru ar draws y gwasanaethau hyn. Ar gyfer 2018/19, dengys y data mai Cyngor Bro Morgannwg yw'r cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru unwaith eto.


“Mae’r ffaith bod y Cyngor yn cael ei raddio  fel y cyngor sy’n perfformio orau yng Nghymru dro ar ôl tro, er gwaethaf yr arbedion o £ 55m sydd wedi eu gwneud dros y deng mlynedd diwethaf, yn glod mawr i’r ffordd yr ydym yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.


“Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu mesur yn y tablau perfformiad hyn yn rhai sy'n cael effaith gwirioneddol ar fywydau pobl. Mae hyn yn rhywbeth nad ydym yn ei anghofio wrth gynllunio gwasanaethau a gwneud penderfyniadau.


“Dyma Gyngor sy’n ymdrechu i fod y gorau ac i gyflawni’r gwasanaethau gorau posibl i drigolion y Fro. Rwy’n falch iawn bod hyn wedi’i adlewyrchu yn y data perfformiad cenedlaethol unwaith eto.”- Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor. 

Mae'r safleoedd yn seiliedig ar ddata ar gyfer 19 dangosydd perfformiad cenedlaethol. Ymhlith y rhain mae'r Cyngor yn y safle cyntaf yng Nghymru am bum maes gwaith: 

 

  • Perfformiad gorau gan ddisgyblion blwyddyn 11 (wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio mesur 'Capio 9' Llywodraeth Cymru) 

  • Y nifer isaf o ymadawyr blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth

  • Llwyddwyd i atal nifer yr aelwydydd sydd dan fygythiad o ddigartrefedd rhag dod yn ddigartref 

  • Nifer yr eiddo gwag yn y sector preifat sydd bellach yn cael eu defnyddio

  • Y swm isaf o rent a gollwyd oherwydd bod cartrefi cyngor y gellir eu gosod yn wag. 

  •  

 

Ar gyfer bron i hanner yr holl feysydd a fesurwyd, mae’r Fro yn y 25% uchaf o berfformiad, cynnydd arall ers y llynedd. 


Bu gwelliant hefyd mewn perfformiad mewn naw maes. Mae hyn yn cynrychioli'r gwelliant mwyaf i'r Cyngor ers i Data Cymru ddechrau cyhoeddi mesurau perfformiad fel hyn. Camp sylweddol gan ystyried bod cymaint o feysydd eisoes yn perfformio mor uchel.


Mae perfformiad y Cyngor yn cael ei gymharu â'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru trwy ddadansoddi cyfran y mesurau ar draws yr holl awdurdodau lleol o ran y mesurau yn y chwarteli uchaf, canol uchaf, canol isaf ac isaf ar gyfer eu perfformiad. 


Tan yn ddiweddar, cynhaliwyd y dadansoddiad hwn gan Data Cymru (Uned Data Llywodraeth Leol gynt). Er na chynhelir y dadansoddiad hwn mwyach, at ddibenion Adroddiad Blynyddol y Cyngor, gwnaethom ein dadansoddiad ein hunain gan ddefnyddio'r un fethodoleg. 


Gan ddefnyddio’r fethodoleg hon, sgoriodd y Cyngor gyfanswm o 63 pwynt.  Daeth Cyngor Ynys Môn yn ail gyda 59 pwynt ac yn 3ydd roedd Abertawe gyda 53 pwynt.