Cost of Living Support Icon

 

Mesurau llymach ar drwyddedu tacsis gan Gyngor Bro Morgannwg

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael â gyrwyr tacsis anaddas.

 

  • Dydd Gwener, 06 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



O hyn ymlaen, bydd y Cyngor yn defnyddio canllawiau y Sefydliad Trwyddedu wrth benderfynu p’un ai a ddylid caniatáu i rywun weithio fel gyrrwr Cerbyd Hacni neu Logi Preifat yn y Sir. 


Darparwyd y canllawiau mewn ymdrech i safoni meini prawf wrth ddyfarnu trwyddedau tacsis ledled y DU.

 

taxi1

Yn flaenorol, bu rheolau gwahanol gan yr Awdurdodau Lleol ar gyfer trwyddedau o’r fath. Arweiniodd hyn at achlysuron pan oedd rhai ymgeiswyr yn targedu cynghorau penodol gyda chyfyngiadau llacach gan wybod y bydd yn fwy tebygol  y cânt eu gwrthod mewn mannau eraill.


Dan y canllawiau y mae’r Cyngor yn eu mabwysiadu, bydd yn rhaid i’r rheiny sy’n cyflawni rhai mathau o droseddau aros yn hwy cyn cael trwydded. 


A bydd yr amserlenni hirach hyn yn dechrau o bwynt cwblhau dedfryd yn hytrach nag adeg yr euogfarn. 


Er enghraifft, yn y canllawiau newydd, argymhellir i rywun sy’n cyflawni trosedd ddifrodol beidio â chael trwydded tan ar ôl deng mlynedd ers dyddiad cwblhau ei ddedfryd. 

 

taxi22

Dywedodd y Cynghorydd Edward Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: “Mae gyrru tacsi yn swydd sy’n dod â chyfrifoldeb sylweddol. Yn aml bydd gofyn i berson o’r fath gludo pobl ifanc ac agored i niwed o un lleoliad i arall. Hyd yn oed pan nad dyna’r achos, dylai unrhyw berson sy’n teithio yn y math hwn o gerbyd ddisgwyl i’r gyrrwr fodloni amodau llym cyn cael y drwydded.


“Drwy fabwysiadu’r canllawiau hyn, rydym ni’n gwneud ein dull trwyddedu’n llymach ond hefyd byddwn yn helpu i sicrhau bod meini prawf penodol y mae’n rhaid i unigolyn eu bodloni os dymuna weithredu yn y capasiti hwn yn unrhyw le yn y Wlad.”