Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod VJ

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn nodi 75 mlynedd ers buddugoliaeth dros Japan drwy chwifio baner y lluoedd arfog y tu allan i Swyddfeydd Dinesig y Barri

 

  • Dydd Gwener, 14 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



Daeth Diwrnod VJ tri mis ar ôl diwrnod VE gan nodi bod Japan yn ildio a diwedd yr Ail Ryfel Byd.


Yn anffodus, mae’r cyfyngiadau sydd ar waith i reoli lledaeniad y coronafeirws yn golygu na fydd modd cynnal seremoni gyhoeddus ar gyfer yr achlysur hwn ddydd Sadwrn.


Ond mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi trefnu nifer o weithgareddau i helpu pobl i nodi’r digwyddiad sy'n aml yn cael ei anwybyddu.


Ar www.britishlegion.org.uk mae'n bosibl rhannu straeon a negeseuon o ddiolch ar fap rhyngweithiol, er mwyn helpu i sicrhau nad yw cyfraniad y rhai a wasanaethodd yn y Dwyrain Pell yn cael ei anghofio.7

 

vj-day75_W_rgb_landscape

Mae hefyd yn bosibl lawrlwytho a defnyddio pecynnau gweithgareddau o'r wefan sydd wedi eu datblygu gan yr Ardd Goffa Genedlaethol mewn partneriaeth â'r Lleng.


Wedi’u cynllunio ar gyfer pob oedran, mae'r pecynnau yn rhoi trosolwg o'r ail ryfel byd yn ardal Asia a’r Môr Tawel a'r bobl a fu'n gwasanaethu mewn amodau heriol.


Hefyd, bydd dwy funud o dawelwch ar draws y wlad am 11am, sef prif ran y gwasanaeth coffa a ddarlledir yn fyw ar BBC One.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Pencampwr Lluoedd Arfog Cyngor Bro Morgannwg: "Er gwaetha'r cyfnod anodd hwn, mae'n bwysig ein bod yn dal i fanteisio ar y cyfle i anrhydeddu ein Lluoedd Arfog. Mae'r rhai sy'n ffurfio ein Gwasanaethau yn rhoi popeth i amddiffyn gwledydd y DU, gan ein galluogi i fwynhau ein rhyddid.


"Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn nodi Diwrnod VJ gan fod y gwrthdaro ac ymdrechion dewr y rhai a wasanaethodd yno yn aml yn cael eu hanghofio.


"Er nad oes modd dod at ein gilydd i nodi'r achlysur hwn, byddwn yn annog pawb i ddod o hyd i amser i ddangos eu cefnogaeth i'r digwyddiad hwn mewn rhyw ffordd. Mae yna amrywiaeth o ffyrdd y gellir gwneud hyn yn rhithwir drwy ymweld â sianeli cyfryngau cymdeithasol y Lluoedd Arfog."