Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion Bro Morgannwg yn rhagori yn eu harholiadau Safon Uwch ac UG

Mae Bro Morgannwg unwaith eto wedi cynhyrchu canlyniadau Safon Uwch ac UG rhagorol, gyda myfyrwyr yn perfformio'n well na chyfartaledd Cymru a chyfartaleddau rhanbarthol

 

  • Dydd Iau, 13 Mis Awst 2020

    Bro Morgannwg



O ran canlyniadau Safon Uwch, roedd bron traean o'r holl raddau a ddyfarnwyd naill ai’n A* neu’n A, sy'n cynrychioli gwelliant o bump y cant ers 2019.


Cafodd 82.2 y cant o ymgeiswyr raddau A* i C, ac roedd 98.6 y cant o'r holl raddau yn A* i E.  


O ran ysgolion unigol, cofnododd Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr ei chanlyniadau gorau erioed ac mae pob un o'i myfyrwyr wedi sicrhau lle yn eu dewis cyntaf o brifysgol.


Gwellodd y Bont-faen a Stanwell ymhellach ar berfformiad y llynedd gyda bron 40 y cant o'r holl raddau naill ai’n A* neu’n A.


Yn chweched dosbarth y Barri, sy'n cynnwys ysgolion uwchradd Whitmore a Phencoedtre, llwyddodd pob myfyriwr i gyrraedd trothwy lefel 3, sef o leiaf ddwy radd A* i E.


Roedd y canlyniadau ar gyfer myfyrwyr Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn rhagorol, gyda phob ymgeisydd yn pasio. Roedd dros chwarter yr holl raddau yn rhai A* neu A a llwyddodd tri myfyriwr i gael lle i astudio naill ai ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt. 


Mewn arholiadau UG, roedd dros chwarter y graddau a ddyfarnwyd yn rhai A ac roedd 71.4 y cant o'r graddau a ddyfarnwyd yn A* i C.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn gwbl ddigynsail i'n pobl ifanc, ond rwy'n falch iawn bod myfyrwyr Bro Morgannwg unwaith eto wedi cyflawni canlyniadau Safon Uwch ac UG rhagorol.


“Llongyfarchiadau gwresog i bawb fu ynghlwm â hyn, ac fe garwn hefyd ddymuno pob llwyddiant i’r dyfodol i’r myfyrwyr hynny sydd yn gadael ein system addysg.  Mae’r canlyniadau yn awgrymu y gallwch edrych ymlaen yn gwbl hyderus.