Cost of Living Support Icon

 

Neges i’r Flwyddyn Newydd

Y Cyng. Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, yn rhybuddio trigolion cyn y Flwyddyn Newydd

 

  • Dydd Mawrth, 29 Mis Rhagfyr 2020

    Bro Morgannwg



Cllr-Neil-Moore

"Hoffwn ddechrau neges y Flwyddyn Newydd eleni 'fel arfer' drwy ddymuno Blwyddyn Newydd Heddychlon, Hapus ac Iach i holl Drigolion a Chyfeillion Bro Morgannwg. Fodd bynnag, dyna lle mae'n rhaid i normalrwydd fy neges ddod i ben, o leiaf am rai misoedd i ddod. 

 

Gwnaf y sylw hwnnw yng nghyd-destun y Pandemig presennol a'r ffaith na ellir gorbwysleisio difrifoldeb y sefyllfa. Mae'n amlwg nad oedd 2020 yn flwyddyn arferol ac rydym i gyd wedi bod mewn limbo ers i'r Pandemig gael ei ddwysáu i gyfnod clo cenedlaethol ar 23 Mawrth.


Nid yw bywyd ers hynny wedi bod yn hawdd.  Mae llawer wedi colli aelodau o'r teulu neu ffrindiau i'r 'Feirws Marwol' hwn.  Fodd bynnag, er gwaethaf y pryder a'r boen a deimlir ledled y genedl, mae rhai pobl, hyd yn oed nawr, sydd ddim yn cymryd y Pandemig o ddifrif a thrwy wneud hynny nid yn unig maent yn peryglu eu hunain, ond maent yn peryglu eu teuluoedd, yr henoed, yr eiddil a'n CYMUNED NI.


Cyn y Nadolig, fe wnes i ryddhau datganiad yn rhybuddio preswylwyr mai dyma'r cyfle olaf i atal cyfnod clo ym Mro Morgannwg.  Bryd hynny, roeddwn yn rhagweld y gallai cyfnod clo ddechrau ar 28 Rhagfyr, ond yr hyn nad oeddwn wedi’i sylweddoli oedd y byddai'r cyfnod clo yn dod yn ystod y Nadolig.  Rwyf wir yn credu y gellid bod wedi atal hyn pe bai pawb wedi cymryd y mater mor ddifrifol ag y dylent fod wedi'i wneud. 


Yn y saith diwrnod hyd at 27 Rhagfyr rydym wedi gweld 109 o achosion newydd pellach ym Mro Morgannwg.  Ni allwn fod yn hunanfodlon mwyach, ac eto mae pobl yn dal i ddiystyru'r rheolau.  Rwy’n ymwybodol bod Ynys y Barri a Marina Penarth yn llawn pobl ar y penwythnos ar ôl y Nadolig, yn gwneud ymarfer corff yn ôl y sôn, ond dywedwyd wrthyf ei bod yn amlwg nad pobl leol oedd llawer ohonynt a bod nifer y ceir a oedd yn dod i mewn i'r ardal yn ormodol.  Hyn i gyd, o gofio ein bod i fod mewn cyfnod clo, o Ddiwrnod San Steffan.  Er nad wyf wedi cael adroddiadau o ardaloedd eraill, fel Ogwr a Llanilltud Fawr, rwy’n siŵr y byddai’r sefyllfa wedi bod yr un fath.

Mae'n hen bryd i rai pobl sylweddoli difrifoldeb y mater. 


“Mae ein GIG yn cael ei ymestyn a staff yn cael eu gwthio i'r eithaf yn dilyn eu profiad ar reng flaen y pandemig.  Mae angen i bobl ddeall y gall eu gweithredoedd achub bywydau a lleihau’r pwysau ar y GIG hefyd.


Gall y Pandemig ond ddod i ben os yw pobl yn peidio â chwrdd ag eraill y tu allan i’w swigod cartref a hyd yn oed wedyn, os bydd unrhyw un yn gadael y cartref am resymau dilys, dylent gymryd y rhagofalon arferol i gadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel.


Gwn fod llawer sy'n dilyn y rheolau'n rhwystredig, fel yr wyf innau, a dyna pam yr ydym yn cymryd cymaint o gamau ag y gallwn i amddiffyn ein cymuned.


Mae pob toriad rheol yn gwneud y sefyllfa'n waeth, ni waeth pa mor fach y gallai ymddangos, felly yn y geiriau cryfaf posibl, byddwn yn annog pawb i gadw'n agos at y cyfyngiadau, cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac aros yn ddiogel.


Mae'r neges yn syml.  Dilynwch y rheolau sylfaenol, y dylem i gyd fod yn ymwybodol ohonynt erbyn hyn:

  • Gwisgwch fasg dan do mewn mannau cyhoeddus.

  • Cadwch bellter cymdeithasol bob amser.

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd neu defnyddiwch hylif llaw os oes angen.

  • Ni ddylech gwrdd ag aelwyd arall, hyd yn oed y tu allan.

  • Gweithiwch o gartref os gallwch.

  • Osgowch rannu ceir.

  • Arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.

  • Os oes gennych symptomau, gwnewch brawf a hunanynysu ar unwaith.

 

Rydym i gyd yn ymwybodol ein bod wrthi’n dechrau cyflwyno brechlyn i helpu i atal lledaeniad y feirws, ond rhaid i ni fod yn amyneddgar gan nad yw hon yn broses syml na hawdd i'w gwneud.  Rhaid i bob un ohonom aros ein tro a rhaid i ni sicrhau bod ein gweithwyr rheng flaen yn cael eu hamddiffyn yn gyntaf, ynghyd â'r rhai dros 85 oed a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.  Hyd yn oed wedyn ni allwn stopio bod yn wyliadwrus, a byddwn yn dal i gymryd y rhagofalon syml hynny i ddileu'r feirws rhag parhau i ledaenu yn ein cymuned NI, hyd yn oed ar ôl cael ein brechu.


Yn olaf, rwy’n hyderus y bydd 2021 yn gwella ac y gall bywyd ddod ychydig yn fwy normal unwaith eto, ond er mwyn gwneud hynny rhaid i ni gadw'r mesurau diogelwch hynny ar waith am beth amser i ddod.  Wedi'r cyfan, pe bai pob un ohonom yn gwneud ein rhan, bydd ein bywydau a'n hiechyd yn gwella!

 

- Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg