Cost of Living Support Icon

 

Budd Cymunedol i helpu gyda chynnal parciau chwarae'r Fro drwy gydol y flwyddyn

Bydd 27 o barciau chwarae’r Fro yn elwa o ganlyniad i fwy o dorri porfa yn ystod y gaeaf, diolch i gytundeb Budd Cymunedol gyda chontractwyr torri porfa Cyngor Bro Morgannwg. 

 

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Cllr King shakes hands with Countrywide ownerCountrywide Grounds Maintenance sy’n torri porfa’r Cyngor ar hyn o bryd. Fel rhan o'u contract, maent wedi addo cynnig cymorth a pheiriannau am ddim i staff er mwyn helpu i gynnal tiroedd y parciau chwarae yn ystod y misoedd tawel.

 

Bydd hyn yn sicrhau bod y safleoedd yn dal i fod ar gael i deuluoedd a phlant drwy gydol y gaeaf.

 

Mae’r hinsawdd cynhesach yn golygu nad yw porfa'n stopio tyfu yn ystod y gaeaf mwyach. Fodd bynnag, mae adnoddau'r Cyngor, yn draddodiadol, yn cyfyngu'r tymor torri porfa i fis Mawrth i fis Hydref. 

 

Mae'r cynllun Budd Cymunedol yn sicrhau bod unrhyw gontract a roddir gan y Cyngor yn gofyn am unrhyw 'werth ychwanegol' y byddai'r contract yn ei roi i'r awdurdod a'r gymuned, uwchlaw'r gwaith sylfaenol sy'n cael ei wneud.

"Mae'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Countrywide yn ased gwerthfawr i'n tîm Parciau a'n cymunedau ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt.

 

"Mae llawer o'n parciau wedi elwa o'r uwchraddio modern dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd y gwasanaeth yn helpu i sicrhau bod modd mwynhau'r mannau gwyrdd hyn drwy gydol y flwyddyn." - y Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.