Cost of Living Support Icon

 

Cyflogai’r Cyngor yn cael ei henwebu ar gyfer gwobr Gwasanaeth Rhagorol wedi project Pontio’r Cenedlaethau

Mae cyflogai Cyngor Bro Morgannwg, Jackie Moon, wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr Gofalwn Cymru am Wasanaethau Rhagorol.

 

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Mae’r wobr yn cydnabod, dathlu a rhannu gweithwyr a gwirfoddolwyr gofal plant, blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol rhagorol ledled Cymru. 

 

Pupil with residentsMae Jackie wedi gweithio yng nghartref preswyl y Cyngor, Cartref Porthceri, ers 15 mlynedd.

 

Dechreuodd ei gyrfa fel cynorthwyydd cegin ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd domestig.  

 

I gydnabod ei gwaith caled a'i hymrwymiad i'r preswylwyr, gofynnwyd i Jackie ymgymryd â rôl Hyrwyddwr Dementia yn y cartref. Mae ei rheolwyr yn dweud bod hyn wedi rhoi hwb newydd i’w brwdfrydedd. 

 

Dair blynedd yn ôl, cysylltodd Jackie ag ysgol gynradd leol, Ysgol Romilly ac, mewn partneriaeth ag athrawes Sheryl Hopkins, bu'n goruchwylio'r gwaith o greu rhaglen dreigl lle'r oedd disgyblion blwyddyn chwech yn ymweld â'r cartref bob pythefnos i dreulio amser gyda'r preswylwyr.

 

"Mae effaith project pontio'r cenedlaethau Jackie wedi bod yn rhyfeddol. Nid yn unig mae'r project pontio’r cenedlaethau wedi ymgysylltu â'r preswylwyr a’u hysgogi ond mae hefyd wedi magu hunan-barch a hyder y bobl ifanc sy'n ymweld â nhw. 

 

"Mae'r project yn dwyn pobl ifanc a phobl hŷn at ei gilydd, gan eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau pwrpasol a buddiol. Mae hyn yn ei dro yn helpu i chwalu’r ystrydebau niweidiol ac yn hybu hunan-werth, dealltwriaeth a pharch rhwng cenedlaethau.  

 

“Mae’n amlwg bod y preswylwyr yn teimlo cyfrifoldeb tuag at y bobl ifanc, a bod y bobl ifanc yn dysgu i ddeall bod pobl hŷn yn gallu mynd yn fregus, ac angen gofal a chymorth wrth heneiddio.  

 

"Mae llawer o'r bobl ifanc bellach yn 'Gyfeillion Dementia,' yn ein helpu i greu cymuned leol sy'n deall ddementia." - Rheolwr Gweithredol dros Gwasanaethau Preswyl, Marijke Jenkins.

 

Mae project Jackie wedi denu sylw ysgolion cynradd a chartrefi preswyl eraill ar draws y Fro. Erbyn hyn mae wedi ymrwymo i helpu i gyflwyno’r rhaglen ym mhob rhan o’r sir.

 

"Mae portffolio Jackie yn dangos rhywun sy’n gwneud mwy na’r gofyn yn rhan o’i gwaith yn gyson. 

 

“Bob dydd yn ei rôl, mae Jackie yn helpu i greu amgylchedd diogel, glân ac ysgogol i breswylwyr ‘Cartref’. Bellach yn Hyrwyddwr Dementia, mae wedi parhau i fynnu, gan gynnig y profiad gwerthfawr hwn i’w chymuned.

 

“Yn ddi-os, mae’r gydnabyddiaeth hon yn un gwbl haeddiannol a dymunaf bob lwc i Jackie.” - y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol a Iechyd.  

 

Jackie discusses her work with WeCareWales