Cost of Living Support Icon

 

Cofrestrwch eich diddordeb am docyn cwt traeth blynyddol!

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn eich gwahodd chi i gofrestru eu diddordeb i brynu tocyn blynyddol ar gyfer un o gytiau traeth enwog Ynys y Barri.  

 

  • Dydd Llun, 03 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Barry Island beach huts 2 (1)

 

Mae'r cytiau traeth lliwgar y naill ochr a’r llall i'r wal ddringo ar y promenâd dwyreiniol. Maen nhw’n rhoi lle i ymwelwyr newid a rhywle i storio eiddo am y dydd - yn ogystal â chynnig golygfeydd sy'n ymestyn ar draws Bae Whitmore.

 

Mae gan y cytiau bach socedi trydan y tu mewn ac mae gan y rhai mawr fynediad i ddŵr rhedegog.

 

Bydd 6 chwt mawr a 6 chwt bach ar gael i'w rhentu am y flwyddyn, gyda'r cytundeb rhentu yn dechrau o Ebrill 01, 2020 – Mawrth 31, 2021.

"Ers adeiladu'r cytiau traeth, maen nhw wedi bod yn llwyddiant go iawn ac mae galw mawr amdanyn nhw.

 

"Mae'n wych bod preswylwyr yn cael cyfle i'w defnyddio drwy gydol y flwyddyn, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n elwa mwy fyth ar ôl i'r haf gyrraedd. Byddwn yn annog pawb i gofrestru eu diddordeb." - y Cynghorydd Lis Burnett, yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw dydd Gwener, Mawrth 06 am 12:00 hanner dydd.


I gofrestru eu diddordeb, bydd angen i drigolion gysylltu â Cyswllt Un Fro ar 01446 700111. Ni all y Cyngor dderbyn ceisiadau am ddefnydd masnachol.


Os oes mwy o ddiddordeb nag sydd o gytiau, bydd y Cyngor yn cynnal raffl a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau mis Mawrth 09, 2020.


Mae'r tâl arfaethedig ar gyfer cytiau mawr yn £750.00 y flwyddyn, a £550.00 ar gyfer cwt bach ar gyfer y tymor 2020/21. Mae'r cynnig hwn yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.