Cost of Living Support Icon

 

Cynghorwyr Bro Morgannwg oll yn cefnogi digwyddiad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Ymunodd disgyblion o ysgolion Parc Jenner a St Cyres yn ddiweddar ag arweinydd a dirprwy arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer gweithdy a gynhaliwyd mewn partneriaeth â'r elusen, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

 

  • Dydd Mawrth, 18 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Kathryn, Sean and Kayn Q&A

 

Cymerodd y Cynghorydd Neil Moore a'r Cynghorydd Lis Burnett ran yn sesiwn y bore, lle bu’r bobl ifanc yn trafod beth yw hiliaeth a pham y gallai pobl wahaniaethu yn erbyn y naill a'r llall.


Gofynnwyd wedyn i'r myfyrwyr ysgrifennu erthygl bapur newydd yn dwyn i gof achosion o hiliaeth, yn hanesyddol ac yn fwy diweddar.


Ar gyfer sesiwn y prynhawn, bu chwaraewyr Clwb Pêl-droed Tref y Barri a Thref Cwmbran, Kayne Mclaggon a Sean Wharton yn cymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb. Ymunwyd gan yr Hyrwyddwr Ieuenctid a'r Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McAffer.


Yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb, gofynnodd y disgyblion gwestiynau i’r triawd. Roedd y rhain yn cynnwys p'un a oedd Kayne a Sean wedi bod yn ddioddefwyr neu wedi bod yn dyst i gamdriniaeth hiliol, a beth i'w wneud pe baent yn wynebu hiliaeth.


Rhoddwyd gwobrau am y cwestiynau gorau.

"Rydym yn parhau i werthfawrogi ein partneriaeth gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Mae'r gwaith y maent yn ei wneud yn helpu i sicrhau bod ein plant yn hyddysg am hiliaeth, a'u bod yn tyfu i ddeall bod pobl o bob lliw croen a chenhedloedd yn haeddu cael eu trin yn gyfartal a chyda pharch. 


"Roedd y disgyblion i gyd yn cymryd rhan yn eiddgar ac yn cyfrannu’n dda i’r sesiynau. Roeddent i gyd yn cytuno eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd.” - y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor.