Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost

Cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg  digwyddiad arbennig i goffáu’r Holocost yn yr Oriel Gelf Ganolog, y mae ynddi arddangosfa ryngweithiol o wybodaeth hanesyddol a gwaith celf ar y pwnc.

 

  • Dydd Iau, 30 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg



Roedd yr Aelodau Cabinet, y Cyng. Lis Burnett, y Cyng. Kathryn McCaffer a’r Cyng. Ben Gray yng nghwmni’r Dirprwy Faer, Jane Norman, a Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor, Rob Thomas yn rhan o ddigwyddiad i nodi’r achlysur.

 

Roedd gwesteion eraill yn cynnwys Arglwydd Raglaw De Morgannwg EM, Morfudd Meredith, yr athrawes a’r arlunydd rhyfel, Nicola Tucker y cerflunydd, Dilys Jackson, yr arlunydd gwifrau, Nina Lazaro, yr arlunydd tecstiliau, Judy Stephens, y cyfarwyddwr, Isaac Blake, cydweithwyr o’r Cwmni Celf a Diwylliant Romani a disgyblion o Ysgol Bro Morgannwg.

 

75 mlynedd wedi’r dyddiad rhyddhau o Auschwitz, mae’r arddangosfa’n gyfuniad o hanesion bywyd go iawn aruthrol, gan gynnwys tystiolaeth gan y goroeswr cyntaf mewn realiti rhithwir.

 

Mae Girls of Room 28 yn stori oroesi aruthrol, a gyhoeddwyd gan yr awdur Hannelore Brenner, sy’n adodd hanes 15 merch a oroesodd y gwersyll-garchar yn Terezin; mae pedair ohonyn nhw’n dal i fyw heddiw.

 

Ar ôl y rhyfel, arhosont yn ffrindiau da ac mae’r arddangosfa’n deyrnged i’w goroesiad.  

 

Mae'r arlunydd Dilys Jackson yn cofio am ei phrofiad yn Greenham Common ar ddechrau'r 80au drwy ei gwaith celf, lle roedd 70,000 o fenywod (o Gymru yn wreiddiol) yn protestio'n heddychlon yn erbyn y Taflegryn Trident a oedd yn dod i'r DU. Dioddefodd y menywod dywydd eithafol a garw, cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, ac erledigaeth gan yr awdurdodau, ond daliont eu tir er gwaethaf pob disgwyl ac yn y pen draw buont yn llwyddiannus yn eu hymgais.  

 

Mae ‘What to Leave… Comfort Blankets gan Judy Stephens. yn mynd i'r afael â'r panig a'r ofn gall newid a orfodir yn sydyn eu creu pan fydd yn rhaid i bobl i ffoi o'u cartrefi a phan gaiff rhwydwaith diogelwch pobl ei chwalu.

 

Mae Lost since 1974 gan Nina Lazarou yn cyfleu ymosodiad Twrci ar Gogledd Cyprus. Ynghyd â 170,000 o Cypriodau-Groeg eraill, cafodd mam a thad cu Nina eu dadwreiddio a'u gorfodi i adael eu cartref, eu bywydau a'u heiddo.

 

Gobeithiai ei thad-cu, dyn dall ag awch am ganu'r ffidil, fynd yn ôl un diwrnod i'r cartref y cafodd ei orfodi i'w adael, ond yn anffodus ni chafodd erioed.

 

Mae The Fate of European Roma and Sinti during the Holocaust yn canolbwyntio ar y tua 500,000 o bobl Roma a Sinti Ewropeaidd a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost. Ddioddefwyr erledigaeth hiliol a hil-laddiad, nid yw llawer o bobl yn gwybod am eu stori. 

 

Mae The Last Goodbye yn mynd â ni i fyd goroeswr yr Holocost, Pinchas Gutter.Mae'n disgrifio Pinchas yn dychwelyd i Wersyll-garchar Majdanek, lle collodd ei rieni a’i efaill.

 

Wedi’i greu gan yr USC Shoah Foundation, gan weithio gyda’r crewyr Gabo Arora ac Ari Paitz, mae’r syllwr yn cael ei drochi wrth i Pinchas adrodd ei hanes.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael cyfle i ymweld â'r arddangosfa hon, sydd yn Oriel Gelf Ganolog y Cyngor i fynd iddi.

 

"Mae'n tynnu sylw at drafferthion rhai o'r bobl sydd wedi sefyll gyda'i gilydd, gan uno ac ymateb ar y cyd i ormes yn eu hamgylchedd. Mae'n ein galluogi i ystyried a myfyrio ar gyfnod o hanes na ddylen ni fyth ei anghofio.” - y Cynghorydd McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.

 

Mae'r arddangosfa ar agor tan 3:30pm ddydd Sadwrn, 22 Chwefror.