Cost of Living Support Icon

 

Gwaith yn dechrau ar ardal aml-ddefnydd yn Llandochau

Mae gwaith wedi dechrau ar ardal gemau amlddefnydd newydd yng Nghaeau Chwarae'r Brenin Siôr V yn Llandochau yn dilyn buddsoddiad o £85,000.

 

  • Dydd Mawrth, 11 Mis Chwefror 2020

    Bro Morgannwg



Disgwylir i'r cyfleuster, a fydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys pêl-droed, pêl-fasged a chwaraeon eraill, gael ei gwblhau ymhen tua phedair wythnos.


Daeth y cyllid o Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf Cyngor y Fro (£45,000), cyfraniadau Adran 106 o ddatblygiadau gerllaw (£20,000) a grant Lle i Chwaraeon £20,000 gan Chwaraeon Cymru.


Mae Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Cymuned Llandochau wedi gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect.


Mae ailddatblygiad o’r fath yn rhan o raglen waith eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Sir. 
Mae cyfleusterau yn ardal chwarae’r Faenor yng Ngwenfô a’r Murch yn Ninas Powys ymysg y rhai a fydd yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig fisoedd nesaf. 

“Ry’n ni’n gwybod bod llawer o bobl ifanc yn Llandochau wedi gofyn am welliannau i gyfleusterau chwaraeon, felly ry’n ni wrth ein bodd o ddarparu’r ardal gêmau amlddefnydd hon.


"Bydd y prosiect hwn yn darparu arwyneb pob tywydd sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ac mae'n rhan o raglen waith sylweddol i uwchraddio ardaloedd chwarae ar draws y Fro." - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.

 

“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ry’n ni wedi’i chael gan Gyngor Bro Morgannwg a Chwaraeon Cymru a fydd yn ein galluogi i adeiladu’r cyfleuster campus hwn ar gyfer y pentref. Ry’n ni’n hyderus y bydd pobl ifanc Llandochau yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau’r cyfleuster trawiadol hwn am flynyddoedd i ddod.” - Cadeirydd y Gweithgor AGADd, y Cynghorydd Cymuned, Dr Mo Misra.