Cost of Living Support Icon

 

Pass Plus Cymru

Gall Pass Plus Cymru helpu gyrwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed i wella eu sgiliau gyrru.

  • Dydd Llun, 20 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg

Pass-Plus-Cymru

 

Os ydych newydd basio eich prawf gyrru neu’n adnabod person ifanc sydd wedi, yna gall Pass Plus Cymru fod yn addas i chi. 

 

Mae ar gael i bobl ifanc yng Nghymru am £20 yn unig trwy gyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol.

 

Beth fyddwch yn ei ddysgu gyda Pass Plus Cymru

Mae Pass Plus Cymru yn gwrs gyrru uwch byr a arweinir gan arbenigwr sydd wedi’i ddylunio i ddatblygu technegau, codi ymwybyddiaeth ac ehangu profiad.

 

Byddwch yn canolbwyntio ar:

  • Fynd ar y ffordd gerbydau

  • Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon 

  • Gyrru gyda’r nos

  • Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur

  • Gyrru ar lonydd gwledig

  • Meddwl ymlaen llaw

 

Beth fyddwch chi’n ei elwa o’r cwrs?

  • Sgiliau gyrru gwell

  • Cyfle gwell o gael yswiriant is

  • Llai o siawns o gael gwrthdrawiad, neu anafu eich hunan, eich ffrindiau ac eraill

 

 

Trefnu lle ar y cwrs

Cynhelir y cwrs nesaf ym Mro Morgannwg ddydd Iau 12 Mawrth 2020.

 

I gadw lle ffoniwch:

  • 0845 050 4255*

*Mae galwadau’n costio 2 geiniog y funud yn ogystal â Thâl Defnyddio eich cwmni ffôn.

 

www.dragondriver.com

 

Mae Pass Plus Cymru yn fersiwn uwch o’r cwrs Pass Plus safonol ac yn cael ei gefnogi gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau.

 Dragon-driving-and-Welsh-Government-logo