Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn helpu clwb dawns i gael cyllid

Mae clwb dawns yn y Barri wedi cael llawr newydd wedi ei osod yn unswydd at y diben ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ei helpu i sicrhau arian.

 

  • Dydd Mawrth, 14 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg



motion1

 

Mae Motion Control Dance yng nghanolfan YMCA yn y dref a chafodd grant gwerth £2,106 yn ddiweddar gan Chwaraeon Cymru ar gyfer y project.

 

Cyfunwyd hyn ag arian a gasglwyd trwy ymdrechion aelodau’r clwb eu hunain ac arian cyfatebol gan Sefydliad Moondance a Chronfa Buddsoddi Cyfalaf y Trydydd Sector.

 

Gosodwyd y llawr sbring newydd dros y Nadolig, sy’n golygu nad ydy’r sesiynau dawns a symudiad i 274 aelod bellach yn digwydd ar lawr concrit, a all arwain at broblemau anafiadau.

 

“Rwyf wrth fy modd bod Motion Control Dance wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am grant, a’u helpodd i wireddu eu targed o osod llawr newydd yn eu stiwdio.

 

“Fel Awdurdod Lleol, rydym yn credu y dylai bod lle i chwaraeon i bawb. Golyga gosod y llawn hwn y caiff aelodau ymarfer ar arwyneb wedi ei ddylunio yn arbennig at y diben ac mae hynny’n wych o beth!” - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.

 

Mae’r Grantiau Lle i Chwaraeon yn amrywio o £295 i £50,000, gyda chyfanswm o £1m ar gael. Mae’r cyllid yn cael ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru. 

 

“Roedd yr ymateb i’r broses ymgeisio yn syfrdanol mewn gwirionedd,” meddai Cyfarwyddwr Perfformiad Elît Chwaraeon Cymru a chydlynydd y gronfa Lle i Chwaraeon, Brian Davies.

 

“Roedd yn bosib i ni gyfeirio llawer o bobl i’n cynlluniau grant, ond yr her go iawn oedd gwneud y dyfarniadau terfynol. 

 

“Rydym wrth ein bodd fod cynifer o glybiau, o lawer o chwaraeon gwahanol, yn mynd i gael hwb oherwydd y buddsoddiad y llwyddom ei wneud.

 

“Gobeithio, o ystyried yr ymateb a gawsom, y gallwn ni greu achos rhagorol dros gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.”

Dywedodd Emma Mallam, Cyfarwyddwr a Sefydlydd Motion Control Dance: “Rydym wrth ein bodd â’r llawr sbring newydd. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth i’n lle - mae’n stiwdio ddawns go iawn nawr! Gallwn fod yn sicr ein bod yn dod â sesiynau symud diogel a chynhwysol i bawb.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd y llawr newydd yn ysbrydoli ein haelodau i’w gwthio eu hunain yn eu blaen i ddatblygu eu sgiliau symud yn ogystal ag annog aelodau newydd i ymuno yn un o’n sesiynau a chyfoethogi eu bywydau trwy symud.

 

“Diolch i bawb a’n helpodd i godi’r arian i brynu offer hyfryd fel hyn yn ogystal â Sefydliad Moondance, Chwaraeon Cymru a Chronfa Buddsoddi Cyfalaf y Trydydd Sector am eu cymorth ariannol hael.”

 

Am ragor o fanylion yr ystod o ddosbarthiadau sydd ar gael yn Motion Control Dance, cysylltwch ag:

  • info@motioncontroldance.com