Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cynyddu stoc tai cymdeithasol a fforddiadwy

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau rhaglen waith uchelgeisiol i gynyddu’r ddarpariaeth tai fforddiadwy fydd yn gweld 500 o eiddo Cyngor yn cael eu hadeiladu dros y bum mlynedd nesaf.

 

  • Dydd Iau, 02 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg



Ac, yn rhan o fenter ehangach i ateb y galw, mae tai fforddiadwy eraill yn cael eu darparu ar y cyd â chymdeithasau tai neu’n rhan o ddatblygiadau’r farchnad.


Mae dau safle fydd yn cynnig tai cymdeithasol ar gyfer ystod o ymwelwyr eisoes ar waith.


Mae Brecon Court yn Y Barri yn broject 28 eiddo sy’n cynnwys llety i bobl hŷn a chartrefi teuluol, ac yn rhan arall y dref, mae Holm View yn cynnwys 11 o fynglos wedi’u haddasu a ddyluniwyd yn arbennig i fodloni anghenion teuluoedd gydag oedolyn neu blentyn anabl.

 

View 4

Ers dechrau’r flwyddyn ariannol, mae 177 o dai fforddiadwy wedi’u hadeiladu yn y Fro.


Mae’r rhain yn gymysgedd o dai rhent cymdeithasol, sydd ar gael i’w rhentu ar lefel is na lefel y farchnad, a thai cost isel, sydd wedi’u prynu gan brynwyr tro cyntaf ar raddfa 70 y cant o bris y farchnad.


O’r rhain, mae 74 wedi’u cyflenwi gan bartneriaid cymdeithasau tai, gan gynnwys 22 o dai wedi’u haddasu sy’n fwy hygyrch i bobl â chyfyngiadau symudedd.


Mae’r 103 arall wedi’u cyflenwi gan ddatblygwyr y farchnad fel amod o ganiatâd cynllunio. 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: “Er mwyn ateb galw sylweddol, rydym wedi cymryd camau mawr i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael i bobl leol. Mae tai fforddiadwy’n cynrychioli cyfartaledd o 30 y cant o ddatblygiadau newydd, a bydd ein Rhaglen Adeiladu Tai yn golygu bod 500 o dai Cyngor yn cael eu hadeiladu dros y bum mlynedd nesaf. Mae’r tai cymdeithasol yr ydyn ni a’n partneriaid yn eu cynnig yn cynnwys gofod byw modern a chyfforddus, sydd wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer y rheiny ag anawsterau symudedd.


“Drwy weithio gyda’n gilydd, mae’r Cyngor, ein cymdeithasau tai a’r diwydiant datblygu’n ceisio uchafu lefel y tai fforddiadwy i gynnig cartrefi diogel a chadarn i bobl sydd eu hangen.
“Gyda phrisiau tŷ’n parhau i godi, mae cael ar yr ysgol eiddo’n dal i fod yn her fawr i lawer o bobl, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd camau i fynd ar ôl y broblem hon. Gobeithio y bydd creu rhagor o dai fforddiadwy’n helpu yn hyn o beth. Mae’r eiddo hyn yn rhoi cyfle i nifer fawr o breswylwyr y Fro i fod yn berchen ar eu tai eu hunain, na fyddai hyn yn bosibl fel arall.”