Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn dod â ffagl yn ôl i Dop Clogwyn Penarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dod â thirnod poblogaidd yn ôl i Benarth drwy ddod â’r ffagl yn ôl i dop clogwyn y dref.

 

  • Dydd Iau, 30 Mis Ionawr 2020

    Bro Morgannwg


Wedi’i osod yn 1992 i nodi undod Ewrop, cafodd y ffagl ei chynnau ar gyfer achlysuron arbennig megis dathliadau’r mileniwm a jiwbilî’r Frenhines.

 

Beacon

Syrthiodd mewn tywydd garw pum mlynedd yn ôl a doedd dim modd ei godi eto gan fod y polyn ar i fyny wedi pydru o dan y ddaear. 

 

Mae’r Cyngor bellach wedi cynhyrchu polyn pren newydd ar gyfer y ffagl, cafodd ei leoli yn yr un lle â’r hen un yn ddiweddar.

 

“Rwy’n falch bod y ffagl unwaith eto ar ben y clogwyn ym Mhenarth.

 

“Roedd hwn yn dirnod poblogaidd iawn ac yn symbol o ddathliadau cymunedol pan fydd yn cael ei gynnau ar achlysuron pwysig. Fodd bynnag, gall nodi llawer o ddigwyddiadau tebyg dros y blynyddoedd i ddod.” - y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.