Gwaith yn dechrau ar neuadd bentref Aberogwr gyda chymorth preswylydd lleol poblogaidd
Mae gwaith wedi dechrau ar neuadd bentref newydd yn Aberogwr.

Mae ymddiriedolwyr Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg i sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith uchelgeisiol, gwerth £634,000.
Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr fu’n bennaf gyfrifol am y project, i ailddatblygu hen floc toiledau ar dir agored ger Lôn Slon yn neuadd gymunedol. Bu’n freuddwyd ers dipyn gan Pene Haskayne i gael neuadd bentref i Aberogwr, ac mae’r freuddwyd honno ar fin cael ei gwireddu:
“Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig, ac rydyn ni wir yn teimlo’n bod wedi cyflawni rhywbeth pwysig. Dwi’n hynod falch o weld y gwaith yn dechrau ar yr adeilad hwn, fydd yn ganolbwynt pwysig i Aberogwr,” dywedodd Pene, sydd wedi byw’n hir yn y pentref ac sy’n aelod o Bwyllgor Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr, ac yn un o’r ymddiriedolwyr.
“Bydd hwn yn lle cwrdd braf, ar gyfer popeth a phawb. Mae pawb mor frwd, bydd angen creu amserlen gref i wneud lle i bawb!”
Bydd y neuadd yn gwasanaethu’r gymuned leol, a bydd ar gael i’w llogi ar gyfer achlysuron priodasau, bedyddiadau ac angladdau, yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol. Bydd ganddi hefyd fan tawel ar gyfer dosbarthiadau a bydd gofod agored gwyrdd o’i hamgylch.
Bydd gan yr adeilad, sydd wedi ei gynllunio i fod yn ganolbwynt i’r pentref, gaffi hefyd i helpu gyda chynaladwyedd y neuadd ac i greu swyddi.
Bydd y project yn costio £634,000. Daw £332,000 o hyn o gyfraniadau Adran 106 wedi ei sicrhau gan Gyngor y Fro gan ddatblygiadau tai cyfagos, a £6,000 o Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf y Cyngor.
Mae’r Gymdeithas hefyd wedi sicrhau arian o’r UE drwy Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru. Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol a’r Loteri Fawr hefyd wedi rhoi grantiau hael.
“Rwy’n gwybod bod y gymuned wedi gweithio’n hynod galed i wireddu’r project hwn ac maen nhw’n haeddu clod mawr am hynny. Rwy’n falch bod Cyngor y Fro wedi gallu trosglwyddo darn o dir i’r gymuned, fydd yn gartref i’r neuadd hyfryd hon.” - y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.
“Mae’n wych gweld ein contractwr bartner Holbrook Homes yn dechrau ar y gwaith ar y safle. Mae’r ymdrech i greu’r neuadd wedi ei seilio’n gadarn yn y gymuned, a rhaid cofio bod y trigolion lleol wedi bod yn ceisio adeiladu neuadd gymunedol ers yn gynnar yn y 1970au.
"Rwy’n gwbl ffyddiog y bydd y neuadd gymunedol yn llwyddiant enfawr, y bydd pawb yn y gymuned yn ei mwynhau. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r unigolion a’r cwmnïau niferus sydd wedi cyfrannu arian ac amser i’n helpu, o’[r diwedd, i wireddu ein breuddwyd.” - Cadeirydd Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr, Eugene Travers.