Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn ysgrifennu at fusnesau trwyddedig ar Rodfa Penarth 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ysgrifennu at safleoedd trwyddedig o amgylch Rhodfa Penarth yn gofyn am eu cefnogaeth i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â goryfed alcohol

 

  • Dydd Gwener, 24 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg

    Penarth



A'r wythnos nesaf bydd Cabinet y Cyngor hefyd yn ystyried p'un ai i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn yr ardal, sy'n golygu y byddai yfed alcohol yno yn cael ei reoli'n llym.

 

Os caiff y gorchymyn ei roi ar waith, byddai gan Swyddogion Gorfodi'r Cyngor a’r Heddlu y pŵer i atafaelu alcohol a rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rhai sy'n anwybyddu cyfyngiadau.

 

Gyda rhai busnesau bellach yn cael gwerthu alcohol i bobl fynd gyda hwy neu i’w yfed yn eu hardaloedd awyr agored eu hunain, mae awgrymiadau bod hyn yn achosi problemau mewn rhai achosion.

 

Mae'r Cyngor wedi derbyn adroddiadau am grwpiau sy'n ymgasglu y tu allan i safleoedd penodol, nad yw rhai yn cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol priodol bob amser a bod digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd.

 

I fynd i’r afael â’r sefyllfa hon, mae Arweinydd y Cyngor Neil Moore a'r Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas wedi anfon llythyr i dafarndai, caffis a bwytai.

 

Ynddo, maent yn gofyn am gymorth i fynd i'r afael â phroblemau diweddar, a chaiff manwerthwyr eu hannog i fod yn ofalus wrth werthu alcohol.

 

Civic

Atgoffwyd busnesau hefyd, os nodir bod achosion o werthu alcohol yn anghyfrifol yn cyfrannu at ymddygiad annerbyniol, y gallent wynebu camau gorfodi.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwy'n ymwybodol o faterion sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol sy'n effeithio ar Rodfa Penarth ac wedi ysgrifennu at drwyddedeion lleol yn gofyn am eu cymorth i fynd i'r afael â nhw.

 

"Rwy'n sylweddoli bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i'r diwydiant lletygarwch ac rwy'n croesawu'r ffaith bod llawer o fusnesau wedi dechrau masnachu unwaith eto, ond mae'n rhaid i’r broses o werthu alcohol gael ei gwneud mewn ffordd gyfrifol.

 

"Nid yw golygfeydd o niferoedd helaeth yn ymgasglu, weithiau heb fesurau cadw pellter cymdeithasol priodol, a digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol ac ni chânt eu goddef. Maent yn bygwth difrodi enw da ardal Rhodfa Penarth a'i gwneud yn llai deniadol i ymwelwyr. Gyda hynny mewn golwg, mae er lles pawb fod y Rhodfa yn parhau i fod yn ardal ddiogel, cyfeillgar sy’n addas i deuluoedd i bawb ei mwynhau.

 

"Cyn bo hir, byddaf yn trafod gyda'm cydweithwyr yn y Cabinet y posibilrwydd o gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn y Rhodfa gan ei gwneud yn anghyfreithlon i yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus.

 

"Yn y cyfamser, bydd swyddogion y Cyngor yn cynnal archwiliadau rheolaidd o gwmpas y lleoliad hwn i sicrhau bod y broses o werthu alcohol yn cydymffurfio â thelerau trwyddedau unigol ac nad yw’n cyfrannu at ymddygiad gwael."