Cost of Living Support Icon

 

Ffordd Penrhyn, Y Barri

Datganiad gan Arweinydd y Cyngor

 

  • Dydd Gwener, 24 Mis Gorffenaf 2020

    Barri



Cyn protest sydd wedi'i chynllunio yn y Barri ar 25 Gorffennaf, mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol i egluro yr enwi ar Ffordd Penrhyn yn y Barri.  

 

Dwedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor: "Ni chafodd y stryd dan sylw ei henwi ar ôl unigolyn, ond yn hytrach mae'n cynnwys y cyfieithiad Cymraeg ar gyfer penrhyn neu bentir, gan adlewyrchu ei leoliad ger yr arfordir. Mae hefyd yn air Cernyweg am bentir. Nid yw'r enw yn cyfeirio at unrhyw ffigur hanesyddol. 

 

 “Mae gwaith i adolygu yr holl gerfluniau a choffadwriaethau, gan gynnwys enwau strydoedd, adeiladau cyhoeddus a phlaciau, ym Mro Morgannwg yn mynd rhagddo.  Mae’n hanfodol fod y rheiny sydd ar dir cyhoeddus yn cynrychioli gwerthoedd pobl leol a gwerthoedd Cyngor modern a chynhwysol.

 

 “Byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau a sefydliadau priodol i archwilio i cysylltiadau â chaethwasiaeth ac unrhyw ymddygiad neu arfer arall nad yw’n cydfynd â’n hethos. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnwys yr adolygiad maes o law. 

 

“Dyma enghraifft arall o benderfyniad y Cyngor i fynd i’r afael â rhagfarn o bob math.  Fel sefydliad, rydym yn parhau yn gwbl ymrwymedig i egwyddor cydraddoldeb ni waeth beth fo’r hil, oedran, rhyw, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol."