Cost of Living Support Icon

 

Gwaith ar Barc Highlight wedi'i gwblhau wrth i ardaloedd chwarae agor eto

Gyda mannau chwarae yn agored eto, gall plant yn y Barri fwynhau’r cyfleuster newydd, disglair diolch i fuddsoddiad o £70,000 gan Gyngor Bro Morgannwg

 

  • Dydd Gwener, 24 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Yn ystod y cyfnod cloi, mae gwaith wedi digwydd i drawsnewid y llecyn chwarae hen ffasiwn ym Mharc Highlight yn ofod modern iawn, gyda'r offer diweddaraf.


Ar ôl cael ei hailwampio'n llwyr, mae'r ardal chwarae newydd yn llenwi'r un lle â'r hen un, ond erbyn hyn mae ganddi thema gwasanaethau brys.


Wedi'i ysbrydoli gan yr orsaf dân a'r ganolfan iechyd gyfagos, mae'n cynnwys plac sy'n ymroddedig i weithwyr allweddol, trawstiau cydbwysedd, cerrig camu a llawer mwy.

 

highlight (1)

Cafodd yr ardal chwarae, a gynlluniwyd ar gyfer plant hyd at 12 oed, ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon ac mae eisoes yn boblogaidd.
Mae ailddatblygiad yn rhan o raglen waith eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Sir. 


Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: “Bydd y gwaith hwn ym Mharc Highlight yn trawsnewid ardal chwarae hen ffasiwn yn ardal fodern yn llawn o’r offer diweddaraf sy’n addas i blant o oedrannau amrywiol. 


“Mae hyn yn rhan o raglen waith helaeth sydd wedi gweld ardaloedd chwarae ledled y Fro yn cael eu huwchraddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae Parc Highlight yn un o nifer o leoliadau lle mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd.