Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Gyngor Bro Morgannwg

Dywedodd yr Arweinydd, Neil Moore: "Rwy'n croesawu'r newyddion bod cytundeb i leoli'r ffatri Britishvolt newydd yn Sain Tathan wedi symud gam yn nes

 

  • Dydd Llun, 20 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



"Os gellir ei gwblhau, byddai hyn yn ddatblygiad pwysig ar gyfer Bro Morgannwg gyfan ac Ardal Fenter Bro Tathan yn arbennig, gan ddod â manteision economaidd sylweddol i'r ardal.


"Eisoes yn lleoliad awyrofod, gweithgynhyrchu a pheirianneg blaenllaw yn y DU, mae'r ardal fenter wedi dod â chyflogaeth ar raddfa fawr i dde Cymru, yn enwedig drwy waith technoleg Aston Martin a leolir yno. Gobeithio mai’r bennod nesaf yn y stori honno o lwyddiant y bydd y project hwn.

Dywedodd Lis Burnett, y Dirprwy Arweinydd: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddenu busnes uchel ei broffil sy'n hybu'r economi i'r Fro a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru tuag at y nod hwnnw.


"Mae hyn yn arwydd pellach bod Bro Morgannwg yn lle deniadol i wneud busnes a byddaf yn gwylio gyda diddordeb wrth i'r sefyllfa hon ddatblygu.


"Mae tîm datblygu economaidd y Cyngor yn rhoi cymorth amrywiol i fusnesau sy'n dewis eu sefydlu eu hunain yma, gan wneud hon yn ganolfan o'r radd flaenaf i weithredu ohoni."