Cost of Living Support Icon

 

Datganiad ar Drwyddedau Awyr Agored

Gwybodaeth i dafarnau, bariau, caffis a thai bwyta ar drwyddedau awyr agored ar gyfer bwyta/yfed yng Nghymru.

  • Dydd Gwener, 10 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Fel y mae ar hyn o bryd, dim ond tafarndai, bariau, caffis a bwytai yng Nghymru sydd â thrwyddedau awyr agored sy'n bodoli eisoes sy'n gallu agor mannau y tu allan i'w man yfed/bwyta o ddydd Llun 13 Gorffennaf ac mae hyn yn seiliedig ar ganllawiau'r Llywodraeth ar gyfer y fath weithrediadau. 

 

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig deddfwriaeth newydd gyda'r nod o'i gwneud hi'n haws i dafarndai, bariau, caffis a bwytai fasnachu yn yr awyr agored ond hyd yn hyn nid yw hyn ar waith. Pe bai'n cael ei gyflwyno byddai'n rhaid i ni ystyried manylion unrhyw Reoliadau Llywodraeth Cymru newydd sy'n berthnasol cyn darparu cyngor pellach.

 

Am ragor o wybodaeth a chanllawiau ar y newidiadau arfaethedig ewch i wefan Llywodraeth Cymru:

 

Gwefan Llywodraeth Cymru