Cost of Living Support Icon

 

Aros yn Ddiogel Ar-lein 

Gall rhai camau syml helpu pobl hŷn i ddiogelu eu hunain rhag troseddu ar-lein a sgamiau.

 

  • Dydd Iau, 09 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg




Elderly-lady-using-computer

Gyda mwy o bobl hŷn yn defnyddio cyfrifiaduron, cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar o ganlyniad i bandemig COVID-19, mae'n hanfodol bod pobl hŷn yn cymryd ychydig o gamau syml fel y gallant aros yn ddiogel ar-lein.

 

Dyna'r neges gan grŵp gweithredu o sefydliadau sy'n cydweithio i ddiogelu ac amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru.

 

Mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi bod yn mynd ar-lein yn ddiweddar – rhai am y tro cyntaf – i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid a chael hyd i wybodaeth a gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfnod cloi.

 

A chydag ychydig o gamau syml – camau y dylem ni i gyd fod yn eu cymryd – gan gynnwys defnyddio cyfrineiriau a meddalwedd diogelwch cryf, a sicrhau bod appiau a systemau gweithredu'n cael eu diweddaru'n gyson, gall pobl hŷn fwynhau'r holl fanteision o fod ar-lein wrth ddiogelu eu hunain rhag risgiau diogelwch posibl.

 

Mae hefyd yn hanfodol bod pobl hŷn yn gwybod sut i adnabod sgamiau e-byst ac ar-lein eraill er mwyn diogelu eu hunain rhag troseddwyr sy’n ceisio dwyn eu harian a'u gwybodaeth bersonol.

 

Mae'n ddefnyddiol bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar bobl hŷn i'w hamddiffyn eu hunain ar gael o Get Safe Online, sy'n rhoi cyngor ymarferol ar ddiogelu eich hun a'ch dyfeisiau rhag twyll, lladrad hunaniaeth, firysau a llawer o broblemau eraill a wynebir ar-lein.

 

Mae gwefan Get Safe Online – www.getsafeonline.org – yn rhoi amrywiaeth eang o ganllawiau a gwybodaeth hawdd eu deall sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein, yn ogystal ag awgrymiadau a diweddariadau defnyddiol am y sgamiau diweddaraf y dylid cadw llygad amdanynt.

 

“I lawer o bobl hŷn, mae bod ar-lein yn ystod pandemig COVID-19 wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan eu galluogi i aros mewn cysylltiad ag aelodau’r teulu a ffrindiau, dod o hyd i wybodaeth hanfodol a defnyddio gwasanaethau ar-lein.

 

Ond mae'n hanfodol bod pobl hŷn – fel pob un ohonom – yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu ein hunain ar-lein, yn enwedig gan ein bod yn gwybod y gall effaith troseddau a sgamiau ar-lein fod yn ddifrifol, gan arwain yn aml at golli hyder ac amharodrwydd i ddefnyddio technoleg ddigidol eto.

 

Felly, byddwn yn annog unrhyw berson hŷn, neu aelod o'r teulu neu ffrind a all fod yn ei gynorthwyo i fynd ar-lein, i ymweld â Get Safe Online er mwyn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth mae ei hangen arnynt i gadw’n ddiogel ar-lein."

 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE

 

Aros yn Ddiogel Ar-lein

Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn cymryd ychydig o gamau syml i ddiogelu ein hunain rhag troseddau a sgamiau ar-lein:

  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a newid cyfrineiriau yn rheolaidd

  • Defnyddiwch feddalwedd diogelu i amddiffyn eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn

  • Sicrhewch fod appiau a systemau gweithredu (e.e. Windows) yn cael eu diweddaru

  • Storiwch wybodaeth yn rheolaidd i ddiogelu ffeiliau a data.

 

"Yn Get Safe Online, rydym yn gwybod bod yr holl gyfnod cloi a'r cyfyngiadau a grëwyd gan Covid19 wedi golygu bod pobl o bob oed yn defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy nag erioed.

 

Mae siopa ar-lein a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid ar-lein wedi bod yn amhrisiadwy, ond, mae bod yn ymwybodol o'r mathau o broblemau y gallech eu hwynebu gan dwyllwyr a chamdrinwyr yn bwysig i'ch cadw chi'n ddiogel, er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau yn ddiweddar.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio cyfrineiriau cryf yn ogystal â meddalwedd diogelwch, a sicrhau bod meddalwedd yn gyfredol, yn bethau defnyddiol y gallwch eu gwneud i amddiffyn eich hun ar-lein tra'n parhau i fwynhau ei fanteision."

Tony Neate, Prif Swyddog Gweithredol yn Get Safe Online

 

I gael rhagor o wybodaeth am aros yn ddiogel ar-lein, ewch i wefan Get Safe Online:

 

www.getsafeonline.org