Cost of Living Support Icon

 

Y diweddaraf ar ehangu Ysgol Sant Baruc

Cytunodd Cabinet y Cyngor yn ffurfiol i gynnig i ddarparu lleoedd ysgol ychwanegol i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol drwy ehangu Ysgol Sant Baruc o 210 o leoedd i 420 o leoedd o fis Medi 2021 ar 29 Gorffennaf 2019. 

 

  • Dydd Mawrth, 07 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd mewn capasiti, cynigiwyd a chytunwyd y bydd Ysgol Sant Baruc yn symud i adeilad ysgol newydd a adeiladir ar ddatblygiad Glannau'r Barri. M

 

ae'r consortiwm o ddatblygwyr tai sy'n cynnwys Persimmon Homes, Taylor Wimpey a Barratt Homes yn gyfrifol am adeiladu'r ysgol newydd yn unol â chytundeb Adran 106.

 

Daethpwyd i gytundeb Adran 106 yn 2012 ac roedd gofyn i'r consortiwm o ddatblygwyr adeiladu ysgol ar safle tua 1.5 hectar, y maent yn berchen arno ar y Glannau, ac yna drosglwyddo'r safle a'r ysgol newydd i'r Cyngor ar ôl cwblhau.

 

Yn sgil y cynnig i adleoli ac ehangu Ysgol Sant Baruc i adeilad ysgol gynradd newydd 420 lle ar y Glannau, roedd angen i'r Cyngor ail-negodi’r cytundeb gyda'r consortiwm o ddatblygwyr. Mae'r trafodaethau hyn wedi bod yn digwydd dros y 12 mis diwethaf ac mae'r Cyngor bellach wedi cytuno ar y cyfraniadau ariannol a rhaglen chyflawni. Cymerodd y trafodaethau hyn fwy o amser na'r disgwyl.

 

Oherwydd yr oedi wrth gyrraedd y cytundeb hwn gyda'r Consortiwm, yn anffodus ni fydd y broses o adeiladu'r adeilad ysgol newydd wedi'i chwblhau ar gyfer Medi 2021.

 

Ar 4 Gorffennaf 2020, cymeradwyodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor ddyddiad gweithredu diwygiedig ar gyfer y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Sant Baruc o 210 o leoedd i 420 o leoedd.

 

Bydd y cynnig yn cael ei weithredu o fis Medi 2022 yn unol ag adeiladu'r adeilad ysgol newydd. 

 

Mae'r Cyngor wedi adolygu'r galw am leoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac mae'n fodlon bod digon o gapasiti i fodloni'r galw o ran y nifer a dderbynnir ym mis Medi 2021.