Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd camau i atal grwpiau mawr rhag ymgynnull yn annerbyniol mewn cyrchfannau a meysydd parcio arfordirol

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymryd nifer o gamau mewn ardaloedd arfordirol yn ystod yr wythnosau diwethaf i ymateb i bandemig y coronafeirws ac amddiffyn y cyhoedd rhag lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, wrth i’r cyfyngiadau cloi gael eu llacio mae cynnydd sylweddol o ymwelwyr wedi’i weld yn ardaloedd arfordirol Bro Morgannwg.  

 

  • Dydd Gwener, 03 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



  

Yn dilyn digwyddiadau yn ddiweddar o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amhriodol a grwpiau mawr yn ymgynnull yn Aberogwr ac Ynys y Barri, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymryd camau i ymateb i ymddygiad annerbyniol o’r fath. 

 

Cafodd maes parcio Aberogwr ei gau nos Iau ddiwethaf a bydd yn aros ar gau tan ddydd Llun 6 Gorffennaf, wrth i’r Cyngor gymryd camau i liniaru problemau yn y dyfodol.  

 

Cynhaliwyd cyfarfod â thrigolion a’r cyngor cymuned lleol ddydd Mawrth 30 Mehefin i esbonio’r camau  y byddai’r Cyngor yn eu cymryd, yn y tymor byr, i ymdrin â’r problemau a achoswyd gan ymddygiad gwrthgymdeithasol megis sbwriela, gwersylla, parcio amhriodol, aros dros nos a sŵn.   

 

  • Bydd cau ffyrdd dros dro yn parhau yn weithredol gyda mynediad i breswylwyr yn unig ar Seaview Drive.

  • Caiff parcio ei reoli ar y brif ffordd drwy Aberogwr (B4524)

  • Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr heddlu yn bresennol yn ogystal â swyddogion y Cyngor yn ystod y penwythnos sydd i ddod er mwyn delio ag unrhyw broblemau posibl. 

  • Mae rhagor o fesurau i reoli’r defnydd o alcohol yn yr ardaloedd hyn hefyd wrthi’n cael eu trefnu, a bydd timau ar y cyd rhwng yr heddlu a Swyddogion Gorfodi’r Cyngor yn atafaelu alcohol a gaiff ei gario neu ei yfed yn groes i’r rheoliadau presennol.

Mae’r Cyngor hefyd yn ystyried datrysiadau ar gyfer y tymor hir er mwyn rheoli trefniadau parcio yn well yn Aberogwr, Ynys y Barri, Cosmeston ac Esblanâd Penarth . Bydd y Cyngor yn cysylltu â chymunedau lleol o ran rheoli parcio cerbydau yn yr ardaloedd hyn.  

 

Bydd y broblem o ddadleoli parcio yn yr ardaloedd preswyl o gwmpas y cyrchfannau hyn hefyd ei ystyried gyda darpariaeth ar gyfer parcio i breswylwyr a mannau parcio aros byr.

 

Caiff y gwaith hwn ei ddatblygu wrth gydweithio’n agos â thrigolion.Yn yr wythnosau i ddod, bydd y Cyngor yn ymgynghori â thrigolion, perchnogion tir, Cynghorwyr y Fro a Chynghorau Cymuned i sicrhau yr ymdrinnir a bob pryder.  

 

Wrth drafod y cynlluniau, dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  

“Mae angen i ni sicrhau bod ein cyrchfannau arfordirol a'n cyrchfannau twristiaid yn parhau i fod yn ddeniadol a bod ganddynt yr adnoddau i gynnig profiad o ansawdd i ymwelwyr, heb gael effaith niweidiol ar drigolion a chymunedau.

 

Mae ein seilwaith parcio ceir yn cael ei foderneiddio ac rwyf wedi dyrannu arian yn y gyllideb eleni i ddarparu gwell rheolaeth parcio ar gyfer ardaloedd preswyl cyfagos lle mae ei angen. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau hyn cyn gynted â phosibl, o ystyried y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr ag arfordir y Fro.


"Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi Bro Morgannwg ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu ymhellach y profiad lleol i dwristiaid ac ymwelwyr, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod cyn lleied o effaith ar ein trigolion sy'n byw ac yn gweithio yn ein trefi a phentrefi arfordirol." 

Mae Anthony Williams, Prif Arolygydd Heddlu De Cymru ar gyfer Bro Morgannwg, hefyd wedi bod yn cwrdd â thrigolion lleol i roi sicrwydd ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud gan y llu a'i bartneriaid. 

 

Dywedodd y Prif Arolygydd Williams: 

"Rydym yn gwerthfawrogi bod mesurau cyfnod cloi'r coronafeirws wedi bod yn anodd i'n cymunedau, ond mae'r math o ymddygiad a welwyd yn ddiweddar yn Aberogwr ac mewn ardaloedd arfordirol eraill yn gwbl annerbyniol. 

 

"Mae ymgynnull mewn grwpiau mawr yn parhau wedi’i wahardd dan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a byddwn yn atgoffa'r rheini sy'n ystyried mynd i'n mannau prydferth i ystyried y risgiau y gallent fod yn eu hachosi iddynt hwy eu hunain a'u hanwyliaid os nad ydynt yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau.

 

"Ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef ar unrhyw adeg – p'un a ydym yng nghanol pandemig ai peidio – a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys yr awdurdod lleol, i sicrhau bod y rhai sydd am fwynhau ein traethau a'n parciau o fewn cyfyngiadau'r gyfraith yn gallu gwneud hynny'n ddiogel a heb ofn na bygythiadau. 

 

"Gall ein cymunedau ddisgwyl gweld mwy o bresenoldeb gan yr heddlu mewn rhai ardaloedd, a bydd swyddogion yn defnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt, gan gynnwys gorchmynion gwasgaru, pwerau atafaelu a chamau gorfodi. 

 

"Allwn ni ddim bod ymhobman drwy'r amser, fodd bynnag, a byddwn hefyd yn apelio ar bobl i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb personol ac i fod yn ystyriol o eraill. Dylai rhieni hefyd fod yn sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a beth maent yn ei wneud."