Cost of Living Support Icon

 

Cwblhau gwaith adeiladu cymunedol yn Cemetery Approach

Mae gwaith codi adeilad cymunedol newydd wedi’i gwblhau yng ngham diweddaraf gwaith ailddatblygu yn Cemetery Approach, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Gwener, 17 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



cemetery approach

Ers 2015, mae’r ddau gyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i wella’r safle a oedd yn ddirywiedig gynt.
 
Agorwyd Gerddi Cemetery Approach yn 2017 yn dilyn gwaith i drawsnewid yr ardal yn fan agored a hygyrch i’r gymuned ei fwynhau, trwy gyflawni gwaith tirlunio, ffensys, seddi, planhigion a phalmentydd newydd.
 
Ac erbyn hyn mae adeilad sy'n cynnwys ardal amlbwrpas, cegin, toiledau a lle storio wedi'i ychwanegu at y safle.
 
Mae llawer o heriau wedi'u goresgyn i gyrraedd y pwynt hwn, gan gynnwys ailadeiladu'r safle’n llwyr ar ôl sawl achos o losgi bwriadol ac anawsterau oherwydd pandemig y coronafeirws.
 
Saif y neuadd, a adeiladwyd gan Willis Construction Limited, mewn gerddi hardd wedi'u tirlunio a bydd yn cynnwys byrddau a chadeiriau, sgrîn fawr, mynediad wi-fi a pharcio ar y stryd.

"Mae’n bleser mawr gan Gyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg gyhoeddi bellach bod yr Adeilad Cymunedol newydd wedi’i gwblhau yn Cemetery Approach, sy’n ased allweddol a adeiladwyd ar gyfer y gymuned ac er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.

"Mae’r adeilad hwn yn ychwanegiad perffaith at y parc hardd cyfagos sydd eisoes wedi’i greu." - Maer Tref y Barri, Margaret Wilkinson.


Bydd y Cyngor Tref yn warcheidwaid yr ased hwn i bobl y Barri gan fod Cyngor y Fro wrthi’n trosglwyddo perchenogaeth o'r adeilad a’r gerddi ar brydles tymor hir.

 

Pan fydd yn ddiogel, bydd Maer y Dref a'i bartneriaid yn cynnal diwrnod agored swyddogol fel y gall y cyhoedd weld y cyfleusterau hyn.
 
Bydd y neuadd ar gael i’w llogi ar gyfer partïon pen-blwydd, seremonïau cyn angladd, aduniadau teuluol, cyfarfodydd, digwyddiadau, hyfforddiant a chyfarfodydd grwpiau cymunedol lleol o fis Medi, yn amodol ar reoliadau COVID-19.

 

I gofrestru diddordeb mewn archeb betrus, cysylltwch â:

 

  • info@barrytowncouncil.gov.uk 

 

"Rydym ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Barri dros nifer o flynyddoedd i drawsnewid yr hyn oedd yn ardal anghyfannedd, dirywiedig yn rhywbeth y gallai’r gymuned leol ei fwynhau a bod yn falch ohono.
 
“Mae cam diweddaraf y cynllun hwnnw’n cynnwys adeiladu cyfleuster a fydd yn cynnwys amwynderau a man storio a fydd, gobeithio, yn dwyn mwy o les i’r rhai sy’n defnyddio’r ardal.” - Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.