Cost of Living Support Icon

 

Cenhadon Hawliau'r Fro Ifanc yn dathlu ar garreg y drws!

Cafodd 35 o bobl ifanc yn ddiweddar eu dyfarnu â’u hardystiadau Agored Cymru, a gyflwynwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg a’r prosiect Cenhadon Hawliau.

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Gorffenaf 2020

    Bro Morgannwg



Young Vale Ambassadors 1Mae’r tystysgrifau fel arfer yn cael eu cyflwyno mewn seremoni gyda’r nos bob blwyddyn. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r sefyllfa Covid-19, eleni trefnodd y prosiectau gyflwyniadau ar garreg y drws.
 
O’r cyfanswm, cwblhaodd pedwar ar hugain o bobl ifanc Lefel 1 Confensiwn Agored Cymru ar Hawliau'r Plentyn CCUHP, ac roedd 11 o bobl ifanc wedi cwblhau cymhwyster Lefel Mynediad 3 ar Hawliau Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yng Nghymru.
 
Fel rhan o’r cwrs, mynychodd pobl ifanc rhwng 16 ac 20 awr o sesiynau hyfforddi gyda'r nos ac ar benwythnosau Defnyddiodd llawer ohonynt y cyfle hefyd i adeiladu oriau gwirfoddoli ar gyfer cynlluniau Dug Caeredin a Bagloriaeth Cymru.
 
Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau i ymgysylltu a darparu ar gyfer ystod o ddysgwyr, yn ogystal â chefnogi datblygiad sgiliau trosglwyddadwy.
 
Roedd yr hyfforddiant hefyd yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu gweithdai a chyflwyniadau i godi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn.

Bu’r Aelod Cabinet dros y Celfyddydau, Hamdden a Diwylliant a Hyrwyddwr Pobl Ifanc, y Cynghorydd Kathryn McCaffer yn canmol y pobl ifanc;
 
“Er gwaethaf y cyfyngiadau presennol a berir gan y Coronavirus, roedd yn hynod bwysig bod gwaith y bobl ifanc hyn yn cael ei gydnabod a’i ddathlu’n gywir a dyna pam roeddwn yn falch o fod yn rhan o’r fideo dathlu.”.
 
“Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc a gwblhaodd eu cymwysterau, ac i’r timau a drefnodd y seremonïau gwobrwyo unigryw.”

Mae project Cenhadon Hawliau’r Fro ar agor i bob person ifanc o bob rhan o Fro Morgannwg.  Mae’r project yn galluogi pobl ifanc 11-25 oed i gael hyfforddiant achrededig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ac i ddatblygu a chynnal gweithdai rhyngwladol ledled y sir. 
 
Mae’r project yn dal i dyfu; y flwyddyn ddiwethaf cymerodd 1000 o blant, pobl ifanc ac oedolion ran mewn gweithdai a chyflwyniadau gan Genhadon Hawliau’r Fro. Hefyd, cwblhaodd aelodau 1241 o oriau o wirfoddoli.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch ag Alex Thomas:

 

Neu dilynwch y prosiect drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Ieuenctid y Fro. 
 
Twitter: @vysvale 
Instagram @vysvale 
Tudalen Facebook – Valeyouthservice