Cost of Living Support Icon

 

Datganiadau Aberogwr

Datganiadau gan Neil Moore, Arweinydd y Cyngor a Rob Thomas, Rheolwr gyfarwyddwr

  • Dydd Gwener, 26 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



“Roedd yr hyn ddigwyddodd ar draeth Aberogwr neithiwr yn warthus. Gwnaeth y rheiny a barodd yr anhrefn ddiystyru nid yn unig eu diogelwch eu hunain ond hefyd ddiogelwch y gymuned gyfan.

 

Mae’r rheoliadau aros yn lleol a’r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ar waith o hyd yng Nghymru ond mae’n amlwg bod llawer o bobl wedi dewis anwybyddu’r rhain.

 

Mae ymgyrch fawr bellach ar y gweill i lanhau’r traeth. Mae maes parcio traeth Aberogwr wedi’i gau a bydd yn parhau ar gau tan ddechrau’r wythnos nesaf o leiaf.

 

Mae Prif Weinidog Cymru wedi’i gwneud yn glir heddiw, fod gweithredoedd fel hyn gan leiafrif anghyfrifol yn peryglu’r camau graddol sy’n cael eu cymryd i lacio’r cyfnod cloi y mae llawer o bobl wedi gweithio’n galed i’w gwneud yn bosibl".

 

Neil Moore, Arweinydd y Cyngor

 

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Heddlu De Cymru i nodi’r ffordd orau o reoli nid yn unig y maes parcio hwn ond pob un o’n cyrchfannau arfordirol er mwyn cefnogi eu dull o orfodi’n y ffordd orau bosib.  

 

Byddai’n gwbl annheg â’r holl drigolion lleol ac ymwelwyr hynny sydd wedi mwynhau ein harfordir a’n cyrchfannau prydferth yn gyfrifol yr wythnos hon pe byddai’n rhaid i ni roi mesurau mwy parhaol ar waith i atal cynulliadau mawr o bobl, ond mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried nawr.”

 

Rob Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr