Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn canmol ymdrechion gwirfoddolwyr yn ystod pandemig coronafeirws

Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Neil Moore, wedi canmol gwirfoddolwyr am y cyfraniad y maent yn ei wneud yn ystod yr achosion o coronafeirws

 

  • Dydd Llun, 01 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg


 

Mae heddiw'n nodi dechrau Wythnos Wirfoddolwyr ac nid yw grŵp o'r fath erioed wedi cael ei werthfawrogi'n fwy nag yn y cyfnod anodd hwn.


Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GVS) i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf ers i'r feirws daro.


A nododd y Cynghorydd Moore yn blwmp ac yn blaen pa mor werthfawr yw'r rôl y maent yn ei chwarae yn ymateb y Fro i'r pandemig.

"Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i GVS a'r llu o bobl sy'n gwirfoddoli ar draws y Fro yn ystod yr argyfwng coronafeirws," meddai.


"Mae wedi bod yn anhygoel gweld lefel yr ysbryd cymunedol sy’n cael ei arddangos ar hyd a lled y Sir. Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan bwysig yn ein bywyd dinesig ers tro byd ac mae’r Cyngor wastad wedi cydnabod pwysigrwydd hyn. Fodd bynnag, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r gweithgarwch hwn wedi cyrraedd lefel arall.


"Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan wirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.  Mae hefyd yn caniatáu i'r Cyngor ganolbwyntio ymdrechion ar rai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed.  Mae’r math hwn o weithio mewn partneriaeth yn golygu y gallwn gefnogi llawer mwy o bobl. 


“Y cymorth syml ond hanfodol a roddir gan wirfoddolwyr, megis help gyda siopa, bwyd a chynnig cyfeillgarwch a fydd mor bwysig wrth i bandemig Covid-19 fynd rhagddo. Nid ydym yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol, na sut fydd ein bywydau’n newid o ganlyniad i’r coronafeirws, ond mae’n sicr y bydd y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn parhau i fod yn eithriadol o bwysig.


Mae'n galonogol iawn gweld cynifer o bobl yn dod ymlaen i helpu cefnogi ffrindiau, aelodau’r teulu a chymdogion sy’n agored i niwed ac, mewn llawer o achosion, y rhai hynny nad ydynt erioed wedi cwrdd â nhw ond sydd yn syml ag angen rhywfaint o gymorth. 


“Mae gwirfoddolwyr, ynghyd â gweithwyr allweddol o sefydliadau megis y Cyngor, yn wirioneddol arwyr o fri."

roundabout1

 

Mae GVS wedi chwarae rhan hanfodol wrth sefydlu cyfeiriadur Arwyr Bro’r Cyngor drwy ddarparu rhestr o wasanaethau trydydd parti.


Mae Arwyr y Fro yn gronfa ddata chwiliadwy sy'n helpu unigolion sydd angen cymorth i gysylltu â'r rhai sy'n ei gynnig.


Gall pobl gofrestru os oes angen cymorth arnynt i siopa bwyd neu i gasglu meddyginiaethau, er enghraifft, fel y gall unigolion neu grwpiau sy'n gallu helpu gyda thasgau o'r fath. 


Mae Tîm Cymorth Mewn Argyfwng y Cyngor hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda GVS ac Age Connects Caerdydd a’r Fro, gan gyfeirio pobl at yr elusen lle bo'n briodol, sydd wedyn yn gwneud cysylltiadau â sefydliadau a all helpu.


Ar hyn o bryd, mae nifer o bobl yn gwirfoddoli ar draws y Fro, gyda dros 2000 yn gwirfoddoli ers mis Mawrth pan darodd argyfwng Covid-19.


Mae nifer o grwpiau cymdogaeth wedi'u sefydlu ledled y Fro i helpu aelodau agored i niwed yn eu cymunedau, tra bod y rhai sydd eisoes wedi'u sefydlu yn cynyddu lefel eu gweithgaredd.


Mae GVS yn cefnogi'r grwpiau hyn drwy gynnig cyngor ar amrywiaeth o faterion, megis sut i gadw gwasanaethau'n ddiogel, a hefyd eu cysylltu â sefydliadau elusennol lleol fel Age Connects Caerdydd a’r Fro, Dinas Powys Voluntary Concern, Penarth Helping Hands a mwy.


Maent hefyd yn diweddaru'n rheolaidd restr o gyllid Covid-19 sydd ar gael, wedi datblygu arolygon ar-lein i fesur effaith cyfnod y cloi a chynnig cymorth ffôn i'r rhai dan 65 oed sy'n gofyn am gyngor ar y gwasanaethau sydd ar gael yn eu hardal.


Mae'r Cyngor wedi rhoi grant o £2,000 i GVS i gefnogi gwirfoddolwyr lleol, sydd wedi mynd yn ei dro i helpu ariannu nifer o grwpiau, gan gynnwys: Radio Bro, Cymdeithas Ford Gron y Barri, Cymdeithas Preswylwyr Glannau'r Barri, Grŵp Pentref Sili, Neuadd Bentref Llandŵ a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon Oakfield. 


Mae Cronfa Argyfwng Arwyr y Fro newydd hefyd wedi'i sefydlu i gynnig grantiau o hyd at £3,000 i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol, cynghorau tref a chymuned a busnesau cymwys.


Gellir cyfrannu'r arian hwn tuag at gost mentrau yn y Fro sy'n helpu aelodau o'r gymuned y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio'n ddifrifol arnynt.  


I gydnabod eu hymdrechion, mae arwyddion wedi eu gosod ar draws y Sir yn mynegi diolch am y cyfraniad mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. 

Dywedodd Rachel Connor, Prif Swyddog Gweithredol GVS:  "Yn yr argyfwng presennol ym maes iechyd y cyhoedd, mae gwirfoddolwyr yn newid ac yn cefnogi nifer anhygoel o bobl, ond nid oes yr un ohonom yn gwneud hyn ar ein pennau ein hunain ac ni fyddai'n bosibl heb gefnogaeth barhaus ein partneriaid a'r nifer fawr o grwpiau a sefydliadau cymunedol sy'n recriwtio ac yn cefnogi'r gwirfoddolwyr hynny. 


"Heb y fyddin hon o wirfoddolwyr, ynghyd â chefnogaeth ystod o fudiadau gwirfoddol lleol, byddai llawer o bobl heb fwyd, heb feddyginiaeth a heb wybodaeth.  Mae'r sector gwirfoddol wedi dangos ei wydnwch mewn cyfnod o argyfwng ac wedi helpu i ddiwallu anghenion y rhai sydd fwyaf agored i niwed gyda chyflymder aruthrol. 


"Rydym yn cydnabod ein bod yn gryfach gyda’n gilydd ac mae gwirfoddolwyr wedi ein galluogi i greu cymdeithas ofalgar mewn cyfnod o argyfwng - y pethau lleiaf sy'n cael yr effaith fwyaf, a gyda'n gilydd rydym yn gwneud gwahaniaeth."