Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg a Chyfeillion Celf Ganolog yn lansio Arddangosfa ‘Celf yn y Cyfnod Cloi’

Mae Cyngor Bro Morgannwg a Gwasanaeth Datblygiad y Celfyddydau, ynghyd â Chyfeillion Celf Ganolog yn gwahodd pobl i gyflwyno enghreifftiau o gelf a gynhyrchwyd yn ystod cyfnod cloi y coronafeirws i ymddangos mewn arddangosfa ar-lein.

 

  • Dydd Gwener, 19 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg



Gyda’r wlad yn sownd dan do, mae creadigrwydd wedi ffynnu dros yr ychydig fisoedd diwethaf a nod y fenter hon yw adlewyrchu a dathlu’r ffaith honno.


Yn agored i bobl o bob oed a lefel profiad, gellir dod o hyd i fanylion llawn ar sut i gymryd rhan ar wefan y Cyngor, ond yn gryno mae’r trefnwyr eisiau un cyflwyniad fesul person o ddarn o gelf a wnaed yn ystod y cyfnod cloi.


Gall cyfranogwyr ddefnyddio unrhyw ddeunydd a chyfrwng ar gyfer eu creadigaeth, sy’n golygu y gall y darn gorffenedig fod yn weledol, yn berfformiad, yn ysgrifenedig, yn beintiad, yn ddarluniad, yn gân, yn gerflun, yn ffilm, yn ffotograff neu’n unrhyw beth arall.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:

 

"Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb wrth i’r wlad frwydro yn erbyn coronafeirws. Mae mwy o amser dan do wedi creu amrywiaeth o emosiynau, gan gynnwys rhwystredigaeth, unigedd a llawer mwy.


“Ond mae’r cyfnod hwn hefyd wedi creu cyfle i fynegi teimladau o’r fath yn greadigol, ac o ganlyniad mae’r celfyddydau wedi ffynnu. Mae wedi ein galluogi i gysylltu, cyfathrebu a diddanu, gan amlygu sgiliau creadigol a thalentau cudd pobl. Mae ymdrechion o’r fath yn helpu i godi’r galon, gan ymladd yn erbyn problemau iechyd a lles. Er bod rhaid i ni i gyd gadw ein pellter ar hyn o bryd, trwy rannu ein profiadau trwy gelf gallwn ddod â chymunedau at ei gilydd eto.


“Rydym eisiau manteisio ar y pethau bendigedig a chreadigol mae pobl wedi bod yn eu gwneud yn ystod y cyfnod cloi a’u rhannu ar blatfform ar-lein a byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gyflwyno rhywbeth.”

 

Cyflwyno Eich Gwaith