Cost of Living Support Icon

 

Celf yn y Cyfnod Cloi - Galwad Agored

Mae Rhaglen Datblygu Celfyddydau Bro Morgannwg a Chyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog yn eich gwahodd i gyflwyno’ch gwaith ar gyfer arddangosfa rithwir.

  • Dydd Iau, 18 Mis Mehefin 2020

    Bro Morgannwg

 

 

 

Arts-in-isolation-WelshBydd yr arddangosfa rithwir yn arddangos y gweithiau celf, projectau a straeon sydd wedi eu creu yn ystod cyfnod cloi'r Coronafeirws. Mae'r celfyddydau wedi chwarae rhan allweddol yn ystod y cyfnod hwn o ymbellhau ac arwahanrwydd cymdeithasol.

 

Maen nhw wedi caniatáu i ni gysylltu, cyfathrebu a diddanu ac wedi uno cymunedau. 

 

Beth i'w gyflwyno

Rydym yn gofyn i chi gyflwyno un greadigaeth yr ydych naill ai wedi'i wneud, yn ei wneud ar hyn o bryd, neu'n bwriadu ei wneud yn ystod y cyfnod cloi.   

 

Gall cyfranogwyr ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau a chyfryngau ar gyfer eu gwaith, a allai gynnwys celf weledol, perfformio, ysgrifennu neu unrhyw gyfryngau creadigol eraill fel, er enghraifft; paentiadau, darluniadau, caneuon, cerflunio, ffilmiau, ffotograffau, perfformiadau cerddorol neu furluniau.

 

Mae mynediad yn agored i bob lefel o brofiad ac i bob oedran, gyda dim ond un cyflwyniad gan bob person yn cael ei dderbyn. Rhaid i bobl dan 18 oed gael caniatâd, drwy e-bost, gan riant neu warcheidwad i gyflwyno gwaith.  

Sut i gyflwyno

Dim ond yn electronig drwy e-bost y caiff cyflwyniadau eu derbyn. Anfonwch fel jpeg, dogfen Word, neu arall ond dim dogfennau PDF. Gellir anfon perfformiad neu ddarnau wedi eu ffilmio trwy WeTransfer neu Dropbox. 

 

Anfonwch eich cyflwyniad i’r e-bost canlynol: 

 

Rhaid anfon y wybodaeth isod gyda’ch cyflwyniad celf.

  • Enw

  • Oedran (os dan 18 oed)

  • E-bost a rhif ffôn

  • Cyfeiriad a chod post

  • Delwedd glir, eglur iawn neu ddolen fel y nodir

  • Manylion y cyfrwng (dyfrlliw, ffilm, cân ac ati)

  • Eich stori - gallwch gynnwys paragraff byr am yr hyn a'ch ysbrydolodd i greu'r darn

 

Cymryd rhan (telerau ac amodau)

  • Bydd pob cyflwyniad a anfonir i'r cyfeiriadau e-bost a nodwyd, gyda’r manylion gofynnol, yn cael ei ystyried ar gyfer bod yn rhan o arddangosfa rithwir Celf yn y Cyfnod Cloi.

  • Arddangosfa yn unig yw hon ac ni fwriedir i’r darnau gael eu gwerthu.

  • Drwy gyflwyno eich gwaith, rydych yn cytuno i ganiatáu i ni ddefnyddio'r gwaith at ddiben e.e. cyhoeddusrwydd/marchnata ac ati yn ôl yr angen.

  • Rydych hefyd yn cytuno i roi caniatâd i ni ychwanegu eich enw at restr o grewyr.

  • Drwy gymryd rhan yn yr arddangosfa, rydych yn cytuno i'ch manylion gael eu rhannu gan yr Oriel Gelf Ganolog a Chyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog mewn perthynas â gofynion diogelu data GDPR.  

  • Nodwch a chadarnhewch yn eich e-bost eich bod yn dymuno cael eich ychwanegu at gronfa ddata gyffredinol er mwyn derbyn gohebiaeth ynghylch digwyddiadau a chyfleoedd celfyddydol eraill yn y dyfodol.

  • Mae Curadur yr Oriel Gelf Ganolog celf gyda chymorth y gwirfoddolwyr, Cyfeillion yr Oriel yn cadw'r hawl i hepgor unrhyw waith a ystyrir yn anaddas i'w weld gan y cyhoedd.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich gwaith. I gael gwybodaeth a diweddariadau ynghylch yr Oriel Gelf Ganolog, yr arddangosfa rithwir a Chyfeillion yr Oriel, gweler isod.