Cyngor Bro Morgannwg yn annog busnesau i wneud cais am gymorth cyn y dyddiad cau
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi annog busnesau i wneud cais am y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo cyn i amser redeg allan
Mae bron i 2,000 o grantiau gwerth mwy na £23m wedi cael eu rhoi gan y Cyngor i gwmnïau a gafodd eu taro gan yr argyfwng Coronafeirws.
Ond mae pryderon fod llawer mwy sy’n gymwys am daliadau o'r fath heb wneud cais eto, a gallant golli allan gan fod dyddiad cau Llywodraeth Cymru, sef 30 Mehefin, yn prysur agosáu.
O dan y Cynllun Grant Ardrethi Busnes, gall eiddo yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch gael cymorth ariannol ar yr amod bod y busnes fel arfer ar agor i'r cyhoedd.
Gallai siopau, bwytai, caffis, sefydliadau yfed, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth fyw, gwestai ac eraill sy'n darparu llety fod yn gymwys i gael grant o £25,000 os oes ganddynt werth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
Ac mae grant o £10,000 ar gael hefyd i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, sydd hefyd yn gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i fusnesau, gyda'r cyfyngiadau presennol yn fygythiad gwirioneddol i lawer.
"Ond mae cymorth ariannol ar gael a byddwn yn annog pob perchennog busnes i ymweld â gwefan y Cyngor i weld y dewisiadau.
"Mewn llawer o achosion, mae gan fusnesau hawl i grantiau, ond mae nifer sylweddol heb ymgeisio eto ac mae'r ffenest i wneud hynny yn cau, gyda dim ond ychydig wythnosau ar ôl."
Yn ogystal â'r grantiau hyn, mae'r Cyngor hefyd wedi defnyddio bron i £10 miliwn o ryddhad ardrethi i rai busnesau sy'n golygu na fydd ganddynt unrhyw gyfraddau i dalu'r flwyddyn ariannol hon.