Cost of Living Support Icon

 

Cyngor ar sgamiau Coronafeirws

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael gwybod am nifer o sgamiau sy'n ymwneud â'r Coronafeirws.

 

  • Dydd Iau, 19 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg

 

 

Warning-sign-header

Er gwaethaf y pryder cynyddol sydd gan y cyhoedd ar hyn o bryd, mae'n bwysig bod preswylwyr yn aros yn wyliadwrus rhag troseddau fel hyn.

 

Yn ein hawdurdod cyfagos yng Nghaerdydd, adroddir bod pobl yn mynd o ddrws i ddrws yn gwerthu pecynnau profi am y feirws.


Dylai preswylwyr fod yn ymwybodol nad oes unrhyw brofion ar gael yn fasnachol ar gyfer y Coronafeirws a bod pob prawf yn cael ei gynnal gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dylai preswylwyr adrodd am unrhyw ddigwyddiadau o'r math hwn wrth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar unwaith drwy ffonio 0300 1236696 fel y gellir cymryd camau priodol.

 

Mae twyllwyr yn targedu'r cyhoedd a sefydliadau yn gynyddol gydag e-byst, negeseuon testunau, galwadau ffôn a negeseuon WhatsApp sy'n cynnig cyngor a thriniaeth at y Coronafeirws, yn ogystal â sefydlu gwefannau ffug sy'n gwerthu cynhyrchion a moddion ‘gwella’.

 

Mae sgamwyr hefyd wedi bod yn sefydlu gwefannau ffug yn gofyn am roddion ar gyfer dioddefwyr neu'n hybu ymwybyddiaeth a chynghorion atal. Mae galwyr digroeso wedi bod yn cysylltu â sefydliadau yn awgrymu bod rhaid iddynt osod mesurau penodol erbyn rhyw derfyn amser penodol.


Cafwyd achosion hefyd o:

  • Bobl yn smalio gwerthu offer amddiffynnol personol fel masgiau wyneb, ond byth yn anfon dim.

  • Negeseuon e-bost yn cynnwys dolenni at ragor o wybodaeth am y Coronafeirws ond sydd mewn gwirionedd yn arwain at wefannau maleisus neu alwadau am daliad.

  • Negeseuon e-bost ffug gan sefydliadau fel y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau neu Sefydliad Iechyd y Byd sy'n honni y gallant ddarparu rhestr o bobl sydd wedi'u heintio â’r Coronafeirws yn eich ardal. Ond maent yn cynnwys dolenni at wefannau maleisus.

  • Ceisio twyllo pobl i ddatgelu gwybodaeth bersonol, ariannol neu wybodaeth sensitif arall.

 

Amddiffyn eich hun rhag sgamiau

Er mwyn helpu aelodau o'r cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag cael eu twyllo, mae CIFAS, Gwasanaeth Atal Twyll y DU, yn cynghori’r canlynol: 

  • Byddwch yn amheus os cewch e-bost, neges destun neu WhatsApp am y Coronafeirws, a pheidiwch fyth â chlicio ar unrhyw atodiadau neu ddolenni; 

  • Peidiwch fyth â rhoi data personol fel eich enw llawn, eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni – gall sgamwyr ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddwyn eich hunaniaeth; 

  • Peidiwch â gadael i unrhyw un roi pwysau arnoch i gyfrannu arian, a pheidiwch fyth â gwneud rhoddion drwy arian parod na chardiau rhodd, nac anfon arian drwy asiantau trosglwyddo fel Western Union neu Moneygram.

 

 

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, siaradwch â'ch banc ar unwaith a hysbysu Action Fraud am unrhyw dwyll:

  • 0300 123 2040