Cost of Living Support Icon

 

Newidwyr Gyrfa: helpu menywod i fynd i’r diwydiant adeiladu

Bydd y Cyngor yn cynnal digwyddiad 'Newidwyr Gyrfa' Rhaglen Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn ddiweddarach y mis hwn, a gynlluniwyd i helpu menywod i fynd i mewn i'r sector adeiladu neu i ailymuno ag ef.

 

  • Dydd Llun, 02 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg



Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf y Newidwyr Gyrfa ym mis Mehefin 2019 yn Swyddfeydd Dinesig y Barri.

 

O'r digwyddiad hwn a chymorth parhaus rhaglen CITB, mae ISG, sy'n gweithio ar hyn o bryd i ehangu ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, a Morgan Sindall, sy'n adeiladu Ysgol Uwchradd Whitmore, wedi cymryd prentisiaid gwaith tir.

 

Mae ISG a Morgan Sindall yn darparu'r hyfforddiant angenrheidiol i'w prentisiaid ddod yn yrwyr teledrafodwyr profiadol a marsialiaid traffig.

"Mae ISG wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi drwy'r rhaglen Newidwyr Gyrfa i roi cynnig ar bethau newydd yn y diwydiant ac wedi helpu i ddatblygu fy hyder nid yn unig ar y safle ond yn fy mywyd bob dydd.

 

Ar hyn o bryd rwy'n ennill profiad o ddefnyddio teledrafodwr gyda'r uchelgais o gymhwyso’n llawn fel gyrrwr erbyn diwedd y prosiect." - Lisa Snape, Cyfranogwr gyda Newidwyr Gyrfa.

Career Changers - candidate on siteYn y llun: Lisa ar y safle gyda Harriet a Dan, ISG. 

 

Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 30 Mawrth yn y Swyddfeydd Dinesig i helpu i ddod o hyd i ymgeisydd addas ar gyfer gwaith ar Ysgol Uwchradd Pencoedtre gyda Bouygues UK.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i'r digwyddiad hwn, cysylltwch â Thîm Ysgolion yr 21ain Ganrif.