Cost of Living Support Icon

 

Athrawon yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb i Coronafeirws

Mae Athrawon ar hyd a lled y Fro yn parhau i fynd i'r ysgol i ofalu am blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol, gan sicrhau bod rhieni sy'n cyflawni rolau hanfodol yn gallu helpu yn yr ymateb i Coronafeirws.

 

  • Dydd Llun, 30 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg



Mae gweithwyr allweddol o'r fath yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, y gwasanaethau brys ac eraill sydd â rhan hanfodol i'w chwarae wrth gadw'r Sir i symud.


Er gwaethaf y gweithredu anhunanol hwn, bu achosion o athrawon a disgyblion yn y Fro yn cael eu beirniadu gan aelodau o'r cyhoedd, nad ydynt yn sylweddoli bod eu sefyllfa unigryw yn golygu nad yw rhai o'r cyfyngiadau a roddir ar eraill ar waith iddyn nhw.


Mae athrawon sy'n gweithio mewn ysgolion yn dilyn canllawiau Llywodraeth y DU cymaint ag y bo modd, er eu bod mewn sefyllfa eithriadol ac un sy’n ganolog i'r ymdrech genedlaethol.


Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae athrawon yn gwneud popeth y gallan nhw yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws drwy fynd i'r gwaith dan amgylchiadau anodd, i ofalu am blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol.


"Mae hyn yn golygu y gall llawer o bobl sy'n cyflawni rolau hanfodol barhau â'r gwaith hwnnw yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn wrth i'r wlad ymateb i'r bygythiad digynsail a achosir gan Coronafeirws.


"Mae'r ymdrech honno yn aruthrol o bwysig ac yn cael ei gwerthfawrogi. Rwyf yn gofyn i bawb gefnogi'r athrawon a'r disgyblion sy'n dal yn yr ysgol gan eu bod nhw'n gwneud gwaith pwysig yn ystod y cyfnod anodd hwn."