Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn dyfarnu dros £70,000 yng Ngrantiau y Gist Gymunedol

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dyfarnu dros £70,000 yng ngrantiau y Gist Gymunedol i brosiectau chwaraeon a gweithgareddau corfforol ledled y sir.

 

  • Dydd Llun, 09 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg



Disgwylir i dros 8000 o gyfranogwyr elwa o'r cyllid, a fydd yn helpu 55 o gynlluniau gwahanol.


Gwahoddwyd sefydliadau i wneud cais am yr arian i gyfrannu at gost addysg hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, prynu offer, marchnata, llogi cyfleusterau cychwynnol a hyfforddi ar gyfer gweithgareddau newydd.


O ganlyniad, bydd 275 o bobl yn cael eu hyfforddi, cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelu.


Bydd naw o'r prosiectau yn helpu i ddatblygu cyfleoedd yn benodol ar gyfer menywod a merched. Mae'r rhain yn cynnwys Clwb Pêl-droed Athletaidd Dinas Powys a Wenvoe Wheelers.

 
Bu sefydliadau di-chwaraeon hefyd yn llwyddiannus yn eu ceisiadau, gan gynnwys y clwb Rhyngsynhwyraidd a Grŵp Pêl-droed Parkinson Cymru. Bydd yr arian a ddyfernir yn helpu i roi mynediad at weithgareddau corfforol i oedolion ag anableddau. 

"Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi cymaint o brosiectau ledled y Fro. Bydd yr arian a roddir yn mynd tuag at gefnogi'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hyn, lawn cymaint â'u cymunedau.


"Rydym i gyd yn gwybod bod ymarfer corff rheolaidd yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd a'n lles, ac felly, mae gennym ddyletswydd i wneud gweithgareddau corfforol a chwaraeon yn hygyrch i bawb. 

 

"Rwy'n falch o weld y bydd llawer o'r arian yn mynd tuag at hwyluso cyfleoedd i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau pan ddaw'n fater o gadw'n heini - fel oedran, anabledd neu ryw." - Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.


Mae cynllun Cist y Gymuned yn cael ei ariannu gan Chwaraeon Cymru a'i reoli'n lleol gan adran datblygu chwaraeon Tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Bro Morgannwg. Mae ceisiadau am grant y Gist Gymunedol yn dal ar agor.


Os ydych yn sefydliad sydd â diddordeb mewn datblygu cyfleoedd corfforol a chwaraeon, bydd angen i chi gyflwyno eich cais cyn 19 Mawrth, 2020. Os hoffech drafod cynnig project, cysylltwch â Karen Davies (Prif Swyddog Byw’n Iach) ar:

  • 01446 704793
  • kjdavies@valeofglamorgan.gov.uk