Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn rhewi'r cynnydd yn y Dreth Gyngor

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno ar gynnydd o 4.9 y cant yn y Dreth Gyngor yn dilyn cyfarfod ddydd Llun.

 

  • Dydd Llun, 09 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg



Mae'r cynnydd hwn yr un fath â'r llynedd ac mae'n debygol o weld y Dreth Gyngor ym Mro Morgannwg yn parhau'n is o dipyn na'r cyfartaledd ar gyfer Awdurdodau Lleol eraill Cymru.


Roedd amrywiaeth o opsiynau'n cael eu hystyried, ac roedd pob un ohonynt yn destun ymgynghoriad fel rhan o broses pennu cyllideb y Cyngor. 


Roedd yr opsiynau'n cynnwys mwy o gynnydd a fyddai wedi codi'r Dreth Gyngor ym Mro Morgannwg yn unol â chyfartaledd Cymru.   


Fodd bynnag, mae setliad ariannol gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i ysgafnhau'r pwysau ar rai gwasanaethau hanfodol.


Bydd y gyllideb, a gymeradwywyd gan y Cyngor mewn cyfarfod diweddar, nawr yn ei gwneud yn bosibl i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

 

Civic

• Bydd ysgolion yn cael £6 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn i ddod, gyda £115 miliwn yn cael ei nodi yn y ddwy flynedd nesaf i adeiladu ysgolion newydd ac adnewyddu rhai presennol.


• Caiff £1.7 miliwn ei wario ar osod arwyneb newydd ar ffyrdd i wella rhwydwaith priffyrdd y Fro.


• Bydd £400,000 yn cael ei fuddsoddi yn y meysydd Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.


• Mae £135,000 wedi cael ei addo ar gyfer cludiant ysgol – gan osgoi'r angen i gwtogi ar y ddarpariaeth bresennol.


• Caiff £1.25 miliwn ei roi tuag at brojectau yn y dyfodol sydd â’r nod o daclo newid yn yr hinsawdd.

 

• Ar ben hynny, mae bron i £250,000 wedi’i glustnodi i ychwanegu cerbydau trydan at fflyd ceir cronfa'r Cyngor.


Er gwaethaf y buddsoddiad hwn, mae'r cyfnod hwn yn parhau i fod yn anodd i gynghorau ledled Cymru a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o hyd ar ôl 10 mlynedd o galedi.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym wedi gwrando ar drigolion o ran gosod y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gwnaeth teirgwaith yn fwy na’r nifer gyfartalog ymateb i’n hymgynghoriad diweddar ar y mater hwn.

 

Roedd y mwyafrif yn cydnabod y pwysau sylweddol ar wasanaethau'r Cyngor ac yn nodi y byddai'n well ganddynt gynnydd o 4.9 y cant yn y Dreth Gyngor yn hytrach na chynnydd mwy.


"Rydym wedi gallu cyflawni'r union gynnydd hwnnw, ond heb yr angen i dorri nifer o wasanaethau.


"Ar ben hynny, mae ein cyllideb ar gyfer y 12 mis nesaf yn cynnwys cynlluniau ar gyfer buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion, a fydd yn golygu cyfleusterau gwell ac amgylcheddau dysgu gwell i'n plant, yn ogystal ag arian i'w wario ar seilwaith ledled y Sir.


"Gwnaed hyn yn bosib drwy reolaeth ariannol ddarbodus, ond hefyd y cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru.


"Fodd bynnag, er bod y newyddion calonogol hwn am gyllid i’w groesawu'n fawr, mae'n bwysig pwysleisio nad yw’n golygu bod pob her ariannol wedi cael ei goresgyn. Mae hynny ymhell o’r gwirionedd.


"Mae gennym rai materion anodd i’w datrys o hyd oherwydd degawd o dan-gyllido mewn cynghorau ledled Cymru. Byddwn yn ceisio bod yn greadigol wrth ateb yr her hon, gyda'r nod o wella effeithlonrwydd drwy ail-lunio gwasanaethau ac osgoi toriadau lle bynnag y bo'n bosibl."