Cost of Living Support Icon

 

Ysgolion y Fro yn derbyn gwobr iaith Gymraeg

Cyflwynwyd Gwobr Siarter Iaith Gymraeg i un-ar-ddeg ysgol ym Mro Morgannwg yn ddiweddar mewn seremoni yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd.

 

  • Dydd Mercher, 11 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg



Cymraeg Campus Language Charter posterSiarter Iaith Campws Cymraeg yw'r cyntaf o'i fath, a gynlluniwyd gan Addysg drwy waith rhanbarthol i ddatblygu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. 


Mae'r Siarter yn cynnwys tair gwobr – efydd, arian ac aur.  Mae ysgolion yn anelu at gwblhau'r gwobrau dros gyfnod o dair blynedd. Mae pob gwobr yn cynnwys deg targed sy'n cynyddu mewn anhawster wrth i'r ysgol wneud cynnydd. 

 
Llwyddodd Ysgol Dewi Sant, Ysgol Sant Baruc, Ysgol Pen y Garth ac Ysgol Bro Morgannwg i ennill y wobr 'arian'.


A llwyddodd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, Ysgol Gynradd Albert, Ysgol Gynradd Cogan, Ysgol Gynradd Dinas Powys, Ysgol Gynradd Fairfield, Ysgol Gynradd y Bont-faen ac ysgolion cynradd Colcot i ennill y wobr 'efydd'.  


Fe wnaeth y Cyng. Lis Burnett, Yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio ganmol yr ysgolion cysylltiedig: 

"Mae'n wych gweld staff a disgyblion ein hysgolion cyfrwng Saesneg yn croesawu ac yn datblygu'r Gymraeg fel hyn.


"Mae'r gwobrau hyn yn dangos ymrwymiad i gefnogi dealltwriaeth o'r Gymraeg a'r ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol a diwylliant sy'n dod yn ei sgîl."