Cost of Living Support Icon

 

Grwpiau ieuenctid y Fro yn mynd i'r afael â newidiadau ailgylchu

Yn ddiweddar, fe wnaeth aelodau o Gyngor Ieuenctid Llanilltud a Chyngor Ieuenctid Penarth ymweld â Chanolfan Ailgylchu Cyngor Bro Morgannwg yn y Bont-faen i ddysgu mwy am y newidiadau i'r gwasanaeth ailgylchu a fydd yn cael eu mabwysiadu'n fuan ar draws y Fro.

 

  • Dydd Gwener, 13 Mis Mawrth 2020

    Bro Morgannwg



Youth recycling visit png

 

Fe wnaethant gwrdd â Swyddog Project Gwastraff y Cyngor, a eglurodd y gwahaniaethau rhwng y gwasanaeth ailgylchu ar wahân, a gafodd ei gyflwyno yn y Fro wledig y llynedd, a'r gwasanaeth ailgylchadwy cymysg a ddefnyddir ar hyn o bryd gan weddill y sir.


Mae'r gwasanaeth ar wahân yn golygu bod eitemau y gellir eu hailgylchu fel cardfwrdd, papur, gwydr a phlastigau yn cael eu rhoi mewn bagiau lliw gwahanol cyn cael eu casglu wrth ymyl y ffordd. Mae'r dull hwn yn gwella ansawdd y deunyddiau a gesglir i'w hailgylchu ac yn caniatáu mwy o werth ail-werthu.


Fis Hydref diwethaf, arolygwyd 3500 o bobl ifanc fel rhan o'r Ymgyrch Gwneud eich Marc. O'r rhain, nododd 57 y cant 'diogelu'r amgylchedd' fel eu prif flaenoriaeth.


Ers hynny, mae aelodau o Gyngor Ieuenctid Llanilltud a Chyngor Ieuenctid Penarth wedi cydweithio ar broject ar ailgylchu plastig ar y cyd. Mae hyn wedi cynnwys cwblhau achrediad ar ailgylchu plastig a chefnogi mentrau lleol i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff. 

"Fy mhrofiad i yw bod oedolion iau, a hyd yn oed yn fwy felly, myfyrwyr a disgyblion ysgol yn deall newid yn yr hinsawdd a’r hyn sydd angen ei wneud yn well na’r mwyafrif o grwpiau eraill.


“Mae’n bositif gweld pobl ifanc yn gweithredu i ddatrys y broblem, ac yn wir yn annog y gweddill ohonom i wneud yr ymdrech!


“Bydd y gwasanaeth sydd wedi gwahanu yn cael ei gyflwyno ledled y Fro dros y flwyddyn nesaf ac felly mae'n bwysig bod preswylwyr o bob oed yn ymwybodol o'r newidiadau.” - y Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.

Mae'r ddau grŵp yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro a'u Cynghorau Tref i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn lleol a lleisio eu barn. 


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y grwpiau neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â:

  • valeyouthaction@gmail.com