Cost of Living Support Icon

 

Project adfywio mawr Bro Morgannwg yn agosau at garreg filltir nodedig

Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar broject adfywio mawr diweddaraf Bro Morgannwg, a disgwylir i rannau o ddatblygiad newydd y Sied Nwyddau werth £9,000,000 agor y mis nesaf.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



Mae'r hen adeilad storio rheilffyrdd ar Hood Road yn y Barri yn cael ei droi'n bentref o gynwysyddion llongau sy’n cynnwys swyddfeydd, unedau manwerthu, bwytai a siop goffi wrth ochr cyfadeilad o fflatiau.


Ac mae elfen gyntaf y cynllun bron â'i chwblhau; mae disgwyl y bydd rhai busnesau yn gweithredu o'u safeloedd newydd mewn ychydig o wythnosau.


Mae Loftco, y cwmni sydd y tu ôl i'r cynllun, wedi dechrau datgelu pa fusnesau fydd yn y datblygiad. 
Mae’r rhain yn cynnwys Spectrum Collections, brand colur rhyngwladol a sefydlwyd yn y Barri y mae ei enw da yn ehangu yn Hollywood a chwmni ffitrwydd Men's Health.

 

gs1Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae’n hynod gyffrous gen i bod y project adfywio trefol llawn dychymyg hwn ar fin cael ei gwblhau.


"Mae'n enghraifft wych o gydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, a wireddwyd gan Loft Co, Cyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Dai Newydd. 


“Mae hwn yn gysyniad gwych a fydd yn rhoi bywyd newydd i'r Sied Nwyddau, adeilad hanesyddol lleol pwysig, gan greu swyddi, cartrefi a chyfleusterau mawr eu hangen er budd y Barri a thu hwnt.”

Mae'r project hefyd yn cynnwys marchnad ffermwyr barhaol, sgrin sinema, campfa awyr agored, theatr a chlwb comedi, a all gael eu defnyddio gan y gymuned leol.


Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o waith adfywio ar raddfa fawr yn digwydd yn y Fro ac mae wedi'i leoli yn Ardal Arloesi Glannau'r Barri.


Mae'r ardal honno eisoes yn gartref i Hang Fire Southern Kitchen, bar espresso Academy a busnesau eraill sy'n gweithredu’n rhan o ailddatblygiad y Tŷ Pwmpio.


Fel y Sied Nwyddau, roedd hwnnw'n adeilad o'r 19eg ganrif gydag arwyddocâd hanesyddol cryf sydd wedi cael ei adfer er mwyn ei ddefnyddio eto.


Mae datblygiadau cyffrous pellach ar y gweill yn yr Ardal Arloesi, sy’n gynnwys cynigion ar gyfer campws coleg newydd, ysgol gynradd a The Engine Room, a fydd yn cynnig mwy o swyddfeydd o safon.

 

gs2

Gan adeiladu ar y cynlluniau goleuo llwyddiannus yn Arosfannau Dwyreiniol a Gorllewinol Ynys y Barri, mae cynlluniau hefyd i osod goleuadau yn y twnnel rheilffordd rhwng Broad Street a'r Sied Nwyddau, gan gryfhau'r cysylltiad rhwng y Glannau, y Stryd Fawr a Broad Street.


Mae'r project hwnnw'n rhan o fenter Creu Tonnau'r Barri, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sydd â'r nod o ddathlu ymdeimlad o le yn y Barri.


Wedi'i ddylunio gan yr arlunydd Jessica Lloyd-Jones, bydd y goleuadau yn cael eu cyflwyno yr haf hwn yn dilyn buddsoddiad o £100,000.