Cost of Living Support Icon

 

Gwaith ailddatblygu Ysgol Uwchradd Pencoedtre i ddechrau yr wythnos nesaf 

Mae gwaith adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Pencoedtre ar fin cychwyn fel rhan o fuddsoddiad gwerth £34.7 miliwn gan Gyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru. 

 

  • Dydd Gwener, 01 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



PHS Image - Front Entrance

 

Mae'r project hwn yn rhan o'r rhaglen ysgolion yr 21ain  ganrif, a fydd yn gweld dros £135 miliwn yn cael ei fuddsoddi i weddnewid cyfleusterau addysgol ar draws Bro Morgannwg. 


Mae'r gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau ar estyniad i ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Whitmore, gan ddod â chymunedau dysgu uwchradd y Barri at ei gilydd.


Bydd adeilad tri llawr gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn cael ei adeiladu gan Bouygues UK i ddarparu ar gyfer 1,250 o ddisgyblion.


Fel gyda phrojectau eraill, bydd y safle yn gweithredu'n unol â deddfwriaeth ymbellhau cymdeithasol Lywodraeth Cymru ac o dan weithdrefnau gweithredu safle’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu. 


Bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys neuadd fwyta, cwrt, ardal chweched dosbarth, mannau perfformio a chyfleusterau chwaraeon ardderchog gan gynnwys cae hoci pob tywydd, caeau pêl-droed a rygbi glaswellt, cyrtiau gemau a neuadd chwaraeon dan do.


Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett: 

“Bydd yr ysgol newydd gyda’i chyfleusterau cyfoes yn rhoi’r llwyfan gorau bosibl i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Pencoedtre i lwyddo.


"Rwy'n falch iawn bod y drydedd ysgol uwchradd yn y Barri bellach yn cael ei thrawsnewid a bydd disgyblion ac athrawon yn gallu defnyddio'r cyfleusterau newydd sbon hyn y flwyddyn nesaf." 

Os aiff popeth yn dda gydag amserlen y project, bydd disgyblion ac athrawon yn symud i'r ysgol newydd ar ddechrau 2022 a'r project i yn cael ei gwblhau yn ystod y Gwanwyn 2023.