Cost of Living Support Icon

 

Cynllun Grantiau Bach ar gyfer Grwpiau Bro Morgannwg

Cynllun grantiau bach i helpu grwpiau gwirfoddol ym Mro Morgannwg sy'n gweithio'n galed i ymateb i’r argyfwng COVID 19.

  • Dydd Llun, 04 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



Mae GGM, gyda diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg, yn gweinyddu cynllun grantiau bach i helpu grwpiau gwirfoddol ym Mro Morgannwg sydd wrthi'n gweithio mewn ymateb i’r argyfwng COVID 19.

 

Mae grantiau bach ar gael hyd at uchafswm o £75 ar gyfer grwpiau newydd nad ydynt wedi’u cyfansoddi a hyd at £200 ar gyfer grwpiau cyfansoddiadol.

 

Gellir defnyddio'r grant i brynu offer ar gyfer eich grŵp, argraffu taflenni neu unrhyw weithgarwch sy'n ymwneud â budd neu gymorth i'ch cymuned yn ystod yr argyfwng hwn.

 

Gwnewch gais am Grant

I fod yn gymwys, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Wedi’ch lleoli ym Mro Morgannwg

  • Gweithio mewn ymateb uniongyrchol i’r argyfwng COVID 19

  • Gweithio er budd eich cymuned leol

 

Ni fydd ceisiadau gan fusnesau a grwpiau y tu allan i Fro Morgannwg neu unigolion yn cael eu hystyried.

 

Os ydych wedi derbyn arian o'r cynllun hwn o'r blaen, mae croeso i chi ailymgeisio.

 

Gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bostio:

 

 

www.gvs.wales 

 

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM): Rhif Elusen Gofrestredig 1163193