Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg 11 Mai, 2020

Amlinellodd y Prif Weinidog ddull synhwyrol bwyllog ar gyfer cam nesaf yr ymateb i’r pandemig Covid-19 yma yng Nghymru ddydd Gwener a dyma’r ymateb rydym yn ei chroesawu ym Mro Morgannwg. 

 

  • Dydd Llun, 11 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



Er ein bod i gyd yn awyddus i ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd cyn gynted â phosib, mae llawer o bobl yn bryderus wrth reswm ynghylch yr hyn a allai ddigwydd os caiff y cyfyngiadau eu llacio neu eu codi’n rhy gyflym. 


Mae gan wleidyddion ar bob lefel ddyletswydd i ddiogelu’r cyhoedd a’r bobl hynny sy’n cyflawni ein gwasanaethau cyhoeddus. Dyma rywbeth yr wyf i, fel Arweinydd y Cyngor, yn ei gymryd yn eithriadol o ddifrif. 


Ledled Cymru, byddwn ni i gyd nawr yn gweithio i roi’r mân addasiadau a gyhoeddwyd ddydd Gwener ar waith, ond fel yr amlinellodd y Prif Weinidog, byddwn mor ofalus ag sy’n bosib wrth wneud hynny.

 
Rydym eisoes yn rhoi ystyriaeth i sut y gallen ni ddechrau ailagor ac adfer rhai gwasanaethau a gafodd eu hatal a hynny mewn ffordd ddiogel. Bydd y gwaith cynllunio hwn yn parhau ond ni fydd unrhyw newidiadau yn digwydd ar unwaith i unrhyw fesurau sydd ar waith ar hyn o bryd. 


Rydym yn gweithio gyda’r holl gynghorau ledled Cymru i geisio sicrhau y bydd gwasanaethau megis Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, pan fo hynny’n bosib, yn cael eu hailagor ar yr un pryd ar draws Cymru mewn modd wedi’i gynllunio’n dda, er mwyn osgoi dryswch. 


Bydd hyn, fodd bynnag, yn digwydd dim ond pan fyddwn yn hyderus y gall gwasanaethau weithredu’n unol â chanllawiau’r llywodraeth mewn ffordd sy’n sicrhau diogelwch y cyhoedd a’r staff.

 

Caiff yr un dull ei fabwysiadu gydag ysgolion yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf yn cadarnhau na fydd ysgolion yn ailagor ar 1 Mehefin. Rwy’n rhagweld y gallaf roi rhagor o fanylion yn yr wythnosau i ddod.


Hoffwn ddiolch unwaith eto i holl drigolion Bro Morgannwg am eu hamynedd gyda’r newidiadau presennol i’n gwasanaethau a’r gefnogaeth wych y maen nhw wedi’i dangos i waith rhagorol ein holl weithwyr allweddol yn ein cymunedau. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i ailadrodd y neges yng Nghymru - Arhoswch Gartref. Diogelu’r GIG. Achub Bywydau.


Y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg