Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cyhoeddi rhybudd ynghylch defnyddio parciau

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhybuddio trigolion y caiff parciau a mannau agored eu gorfodi i gau eto os bydd ymwelwyr yn parhau i dorri rheolau ynglŷn â'u defnyddio.

 

  • Dydd Iau, 21 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



 

Rubbish at Cosmeston
Temporary fencing at Cosmeston
Barriers and tape removed from play area at Cosmeston

 

Diwygiwyd y cyfyngiadau'n ymwneud â pharciau a pharciau gwledig yr wythnos diwethaf er mwyn caniatáu mynediad cyfyngedig yn dilyn addasiad bach yn y rheoliadau cloi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Daeth hynny ar ôl cyfnod o gau i helpu atal lledaeniad coronafeirws.


Caniateir i'r rhai sy'n byw’n lleol ddefnyddio Cosmeston, Porthceri a pharciau eraill ar gyfer ymarfer corff, cyn belled â bod dau fetr o ymbellhau cymdeithasol rhwng pobl nad ydyn nhw o’r un cartref.


Dylai'r cyfnod hwn o ymarfer ddechrau a gorffen gartref ac ni ddylai olygu teithio pellter sylweddol.


Eglurwyd na chaniateir gweithgareddau hamdden, megis bwyta picnic neu farbiciw a thorheulo.


Fodd bynnag, y penwythnos diwethaf gwelwyd llawer o bobl yn anwybyddu'r cyfyngiadau i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, gyda rhai yn symud rhwystrau diogelwch o’r ffordd, yn mynd i mewn i barciau chwarae a oedd wedi'u cau, ac yn gyrru i leoliadau ac ymgasglu mewn grwpiau. Cafwyd adroddiadau hefyd am unigolion yn cam-drin staff parciau.

"Nid yw'r ymddygiad hwn yn dderbyniol ac ni chaiff ei oddef.


"Ni ddylai fod angen i fi atgoffa pobl o ddifrifoldeb y sefyllfa bresennol a'r bygythiad gwirioneddol mae’n dal i'w achosi.


"Cafodd cyfyngiadau'n ymwneud â pharciau eu haddasu'n ddiweddar er mwyn i rai sy'n byw'n lleol eu defnyddio ar gyfer ymarfer corff – dim byd arall. Nid yw gweithgareddau hamdden fel y rhai y gwelsom bobl yn ymgolli ynddynt dros y penwythnos diwethaf yn cael eu caniatáu, ac nid oes caniatâd i deithio iddynt ’chwaith.


"Rwy'n gwerthfawrogi'r budd y gall y mannau hyn ei gynnig i bobl, ond rydym yn cadw golwg gyson ar y ffordd maen nhw’n cael eu defnyddio ac ni fyddwn yn petruso cyn eu cau eto os bydd ymwelwyr yn parhau i dorri'r rheolau a gweithredu'n anghyfrifol." - Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.