Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod VE

The Vale of Glamorgan Council is encouraging residents to celebrate the 75th anniversary of VE Day at home by taking part in a number of activities to mark the occasion

 

  • Dydd Iau, 07 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



Yn anffodus, mae cyfyngiadau i atal lledaeniad y coronafeirws yn golygu na all y seremoni arferol a gynhelir y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri a digwyddiadau cyhoeddus eraill ddigwydd eleni.


Ond bydd Baner yr Undeb yn hedfan uwchben yr adeilad a gwahoddir trigolion i ymuno â’r cofio drwy gymryd rhan yn y ddwy funud o dawelwch o'u cartrefi, eu stepen drws neu eu mannau gwaith am 11am ddydd Gwener.

 

flag

Bydd yr achlysur yn cael ei ddarlledu ar y teledu, gydag araith Winston Churchill yn cyhoeddi diwedd y rhyfel i'w gweld am 3pm.


Yna bydd y Frenhines yn annerch y Deyrnas Unedig am 9pm, yr union amser y siaradodd ei thad Brenin Siôr VI ar y radio yn 1945, cyn i'r Lleng Brydeinig Frenhinol ganu We’ll Meet Again.


Mae yna ymgyrch genedlaethol hefyd i annog dathliadau mewn cartrefi, gan fwynhau te a sgons am 4pm a swper am 6pm, a gofynnir i bobl godi gwydraid i'w cymdogion.


Fel arfer, byddai llawer o gymunedau'n trefnu partïon stryd i nodi’r achlysur arbennig hwn ac mae'r Cyngor yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd y gall yr ŵyl barhau dan do.


Mae'r tîm Datblygu Chwaraeon wedi bod yn rhoi cyngor ar sut i greu baneri i’w hongian y tu allan i'r cartref a ryseitiau i baratoi bwyd a fyddai wedi cael ei fwyta ar y pryd.


Maen nhw hefyd wedi bod yn hyrwyddo gemau a gweithgareddau chwarae'r blynyddoedd hynny. Bydd y Cyngor yn rhannu syniadau eraill ar sut i nodi Diwrnod VE ar y cyfryngau cymdeithasol.


Mae Cynghorau Tref a Chymuned hefyd yn ymuno â’r dathlu, gyda Chyngor Tref Llanilltud Fawr yn annog pobl sy’n chwarae’r biwgl, y trwmped a’r cornet i chwarae’r Caniad Olaf am 2.55pm. Yna bydd llwncdestun o’r cartref i arwyr yr Ail Ryfel Byd am 3pm.


Mae Cyngor Tref y Barri yn gofyn i drigolion addurno ffenestri a chynnal picnics yn eu gerddi, bydd Cyngor Tref Penarth yn chwifio baner y Lluoedd Arfog dros West House, ac mae Cyngor Tref y Bont-faen yn addurno Neuadd y Dref ac yn trefnu partïon stryd sy'n ymbellhau'n gymdeithasol.


Bydd Cynghorau Cymuned ymhob rhan o’r Fro yn chwifio baneri bychain ac yn gwahodd pobl i gadw partïon ymbellhau cymdeithasol yn eu gerddi ar gyfer y sawl sy’n byw yno.

 

Civic

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog gyda Chyngor Bro Morgannwg: "Mae arnom ddyled fawr i'r rhai a wasanaethodd yn y frwydr ac ar y ffrynt cartref yn ystod yr ail ryfel byd.


"Mae'r caledi diweddar sydd wedi ei achosi gan bandemig y coronafeirws mewn rhyw ffordd fach efallai wedi'n helpu ni i werthfawrogi'n well yr aberth enfawr a wnaed gan ddynion a menywod cyffredin dros saith degawd yn ôl.


"Rhoddon nhw bopeth dros y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw. Ni ddylid anghofio'r ffaith honno byth ac mae'n bwysig ein bod yn treulio amser yn nodi'r achlysur hwn, er bod rhaid gwneud hynny o'n cartrefi ein hunain."


Bydd y Cynghorydd Christine Cave, Maer Bro Morgannwg, ar Bro Radio ddwywaith yn ystod y dydd, yn cyflwyno neges am 11am cyn darllen cerdd bedair awr yn ddiweddarach.


"Mae’r caredigrwydd sy’n cael ei ddangos ledled ein cymunedau yn ystod yr argyfwng presennol wedi cyffwrdd ynof yn fawr," meddai. "Mae caledi fel rydyn ni'n ei deimlo ar hyn o bryd yn gallu dod â phobl at ei gilydd a byddwn yn annog pawb i uno i nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VE.


"Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, ddathlu'r garreg filltir hon o gartref, ond nid yw hynny'n gwneud yr achlysur yn llai arwyddocaol."


Dywedodd Dave Stroud, Swyddog Gwarant Gorsaf y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan: "Mae Diwrnod VE yn gyfle i oedi a chofio. Rydyn ni yn y Lluoedd Arfog yn ymfalchïo'n fawr yn ein gwisgoedd oherwydd yr hyn maen nhw’n ei gynrychioli.


"Maen nhw’n deyrnged i’r holl ddynion a menywod hynny a fu ynghlwm wrth y ddau Ryfel Byd, y rhai a dalodd y pris eithaf, y rhai a fu’n byw gyda chreithiau corfforol a meddyliol ofnadwy, y rhai a wisgodd eu gwisgoedd gyda'r fath ddewrder, angerdd, ymrwymiad a phenderfyniad.


"Rhoddodd pob un ohonyn nhw bopeth i’r frwydr dros y rhyddid rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol heddiw."