Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg i ddiwygio cyfyngiadau mewn parciau a pharciau gwledig 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn bwriadu caniatáu mynediad cyfyngedig at barciau a pharciau gwledig er mwyn i drigolion lleol wneud ymarfer corff yn dilyn y mân addasiadau i gyfyngiadau coronafeirws a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru

 

  • Dydd Gwener, 15 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



Bydd parciau Cosmeston, Porthceri a pharciau eraill ar gael ar gyfer ymarfer corff ar gyfer y rhai sy’n byw yn lleol yn unig o ddydd Sadwrn, 16 Mai.

 

Fodd bynnag mae gweithgareddau hamdden fel torheulo, cael picnic, barbeciws ac ymgasglu cymdeithasol yn parhau’n waharddedig, ac felly hefyd defnyddio unrhyw offer chwarae.

 

Bydd cyfleusterau yn y lleoliadau fel toiledau cyhoeddus ac amwynderau eraill ar gau o hyd ac argymhellir bod ymwelwyr yn dod â glanweithydd dwylo ar gyfer ddefnydd personol.

 

Hefyd ni ddylai’r rhai sy’n byw y tu allan i’r ardal gyfagos ddefnyddio’r mannau hyn, oherwydd, er y caniateir ymarfer corff yn fwy nag unwaith y dydd, dylai ddechrau a gorffen gartref ac ni ddylai olygu teithio pellter sylweddol. Yn unol â hynny, bydd yr holl gyfleusterau parcio yn y parciau yn parhau ar gau i’r cyhoedd.

 

PLO_8442

Wrth wneud ymarfer corff, mae’n hanfodol bod trigolion yn cadw at y canllawiau ymbellhau cymdeithasol trwy aros o leiaf dau fetr i ffwrdd o unrhyw un nad ydynt yn aelod o’u haelwyd. 

 

Caiff arwyddion sy’n rhoi gwybod i bobl am y rheoliadau newydd eu gosod yn ystod y dyddiau i ddod a bydd swyddogion gorfodi’r Cyngor yn ymweld â’r parciau’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel.

 

Bydd pob man chwarae yn parhau ar gau am resymau diogelwch gan y gall y coronafeirws aros ar arwynebau caled am 72 awr.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Bu’r Cyngor yn adolygu’n rheolaidd y gwasanaethau sy’n gallu gweithredu’n ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws gan gynnwys parciau a pharciau gwledig.

 

“Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, rwy’n falch o allu newid y cyfyngiadau mewn parciau a pharciau gwledig lleol, fel y gall trigolion lleol wneud ymarfer corff, tra’n dal i gadw at bellhau cymdeithasol.

 

“Fodd bynnag, mae’r coronafeirws yn fygythiad go iawn o hyd ac mae’n rhaid defnyddio’r cyfleusterau hyn yn gyfrifol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

“Er y caniateir ymarfer corff, ni chaniateir ymgasglu cymdeithasol ac unrhyw ffurf arall ar weithgaredd hamdden, a dim ond y rhai sy’n byw yn lleol a ddylai eu defnyddio. Rwy’n cydnabod manteision yr ardaloedd hyn i drigolion lleol, ond mae diogelwch yn bryder hollbwysig o hyd a bydd rhaid i ni eu cau eto os na chânt eu defnyddio’n iawn. Rwy'n mawr obeithio na fydd yn rhaid ei wneud.”