Cost of Living Support Icon

 

Gweithiwr Cyngor Bro Morgannwg yn gwneud gwaith gofal cymdeithasol yn lle rheoli projectau er mwyn helpu i frwydro yn erbyn y Coronafeirws

Mae rheolwr projectau Cyngor Bro Morgannwg, Matt Curtis, wedi dechrau gwneud gwaith gofal cymdeithasol yn lle gwaith cynllunio strategol ar ôl ateb yr alwad i gefnogi gwasanaethau rheng flaen yn ystod argyfwng y Coronafeirws. 

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



matt curtis pic

 

Yn flaenorol roedd Matt yn rhan o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor sy’n canolbwyntio ar ymdrechion i uwchraddio cyfleusterau addysgol ar draws y Fro.


Ond pan ddechreuodd argyfwng Covid-19, gwirfoddolodd i gael ei adleoli ac mae bellach yn gweithio mewn cartref gofal, yn helpu rhai o'r trigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.

"Un noson, roeddwn yn gweithio gartref a gwelais ar ein tudalennau gwe mewnol ein bod yn chwilio am wirfoddolwyr i gael eu hadleoli mewn meysydd allweddol. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gallu ail-flaenoriaethu fy ngwaith er mwyn rhyddhau amser, felly llenwais i ffurflen ar unwaith," meddai Matt.


"Fy mhrif reswm oedd fy mod i'n gymharol ifanc a dydw i ddim yn dod i gysylltiad â phobl sy'n gwarchod nac sydd yn oedolion agored i niwed. Teimlais ei bod yn bwysig fy mod i’n cynnig fy hun ar gyfer y meysydd gwasanaeth pwysig hyn gan wybod y byddent yn cael trafferth ar yr adeg hon.

 

"Dywedais yr awn i i unrhyw le mwy neu lai a'r alwad gyntaf a gefais oedd gan y gwasanaethau cymdeithasol yn dweud eu bod yn bwriadu hyfforddi pobl i gael eu hadleoli, ac yn gofyn a fyddai gennyf ddiddordeb mewn cael golwg ar yr hyn roedd ganddynt i'w gynnig?

 

"O fewn ychydig ddyddiau, roeddwn ar gwrs yn dysgu am weithredu'r holl offer y maent yn ei ddefnyddio yn y gwasanaethau cymdeithasol. Fe ffonion nhw yn gofyn a fyddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw un o'r rolau ac fe ddywedais i, 'yn bendant'. Y dewis oedd rhwng mynd i gartrefi trigolion i’w cefnogi neu weithio yn un o’r pedwar cartref gofal preswyl sydd yn y Fro. 

 

"Penderfynais y byddwn yn cefnogi un o'r cartrefi gofal preswyl a Thŷ Dewi Sant ym Mhenarth oedd y cartref gofal hwnnw.  Rwy'n rhoi meddyginiaeth i'r preswylwyr ac yn archebu meddyginiaeth fel y gallwn sicrhau bod gennym ddigon yn ystod y cyfnod hwn. Rwyf hefyd wedi helpu i ddatblygu cynlluniau wrth gefn a deall y risg sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws."


Mae Matt yn un o nifer o staff y cyngor sydd wedi dewis newid rôl i helpu gyda'r ymateb i Covid-19.
Mae rhai wedi symud i ymuno â'r Tîm Cymorth Argyfwng, a sefydlwyd i amddiffyn trigolion y Fro sydd fwyaf mewn perygl. Gallai eraill fod yn gweithio gyda chriwiau gwastraff i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau hanfodol o hyd neu’n helpu i greu Cyfarpar Diogelu Personol.


Yn ddiweddar, lansiodd y Cyngor ei ymgyrch Arwyr Enfys i gydnabod y rhai sy'n cyflawni rolau mor hanfodol ar yr adeg heriol hon.


Bydd cyfres o arwyddion sydd wedi'u cynllunio'n arbennig yn cael eu gosod mewn lleoliadau amlwg ar hyd a lled y Fro, yn diolch yn arbennig i'r grwpiau sy'n gwneud mwy na’r gofyn yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn.


Byddant hefyd yn cael codiad cyflog o 10 y cant i nodi’r gwerthfawrogiad am yr ymdrechion hynny.

"Mae'r holl staff sy'n gweithio yn y cartrefi gofal, yn ofalwyr, yn weithwyr y ceginau neu'n ofalwyr domestig, yn gwbl ryfeddol wrth eu gwaith. Maen nhw’n cyd-dynnu mor dda gyda'r preswylwyr," ychwanegodd Matt.

 

"Rwyf wedi siarad â'r preswylwyr yn aml dros yr wythnosau diwethaf ac wedi dod i'w hadnabod yn eithaf da. Nid oes ganddynt ddim ond pethau da i'w dweud am staff y cartref gofal a'r gofal a gânt. Mae'n hynod foddhaus.


"Roeddwn i'n pryderu'n fwyaf am fynd i mewn i'r amgylchedd hwnnw, heb wybod beth oeddwn i'n ei wneud a bod dan draed pawb. Doeddwn i ddim eisiau i'r staff fy ngweld fel rhywbeth arall yr oedd yn rhaid iddyn nhw ddelio ag ef ar adeg anodd.


"Ond mae pawb yn y cartrefi yn mynd drwy newid enfawr ar hyn o bryd, maen nhw'n dod i arfer â'r amgylchedd newydd hwn ac yn rhoi’r gofal mewn gwahanol amgylchiadau. Mae hynny'n golygu y gallwn ni i gyd helpu ein gilydd."