Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd ceisiadau i gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi helpu i ddyrannu bron £25,000 drwy Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru hyd yma eleni ac mae bellach yn gwahodd ceisiadau grant pellach.

  • Dydd Mawrth, 03 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Mae’r ymddiriedolaeth elusennol, Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru, yn gweithredu'n annibynnol ar y Cyngor, gan gynnig cymorth ariannol at ystod eang o ddibenion i sefydliadau ledled Caerdydd a'r Fro.

 

Gallai arian fynd tuag at addysg, cynnal cyfleusterau cymdeithasol neu hamdden, diogelu adeiladau hanesyddol, cynorthwyo'r rhai sy'n profi caledi ac ystod eang o gynlluniau eraill.

 

Mae gwaith adnewyddu yn hosbis plant Tŷ Hafan a phrosiect i helpu'r rhai sydd â Sglerosis Ymledol i ymdopi â heriau Covid-19 ymhlith y ceisiadau sydd wedi llwyddo i sicrhau cyllid yn 2020/21.

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae gan Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru arian ar gael at amrywiaeth o ddibenion dyngarol.

 

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n perthyn i sefydliad a allai fod angen cymorth ariannol gyda phrosiect i ymweld â gwefan y Cyngor i weld a allai fod yn gymwys i gael cymorth."

Cytunir ar y cylch ariannu nesaf ym mis Ionawr a rhaid i geisiadau ddod i law erbyn canol mis Rhagfyr.

 

Mae ar gael i sefydliadau yn unig, nid unigolion, unwaith bob tair blynedd a rhaid iddynt fod ar gyfer prosiect untro.

 

Mae'r gwobrau fel arfer yn amrywio o £100 i £5,000 a gofynnir am arian cyfatebol o 25 y cant fel arfer.

 

I gael gwybodaeth lawn ewch i'r dudalen meini prawf.

 

Meini Prawf Ymgeisio