Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn derbyn mwy na 10 miliwn drwy brojectau Adran 106

Derbyniodd Cyngor Bro Morgannwg dros £10 miliwn i'w wario ar brojectau cymunedol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

 

  • Dydd Mawrth, 03 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Sicrhawyd yr arian hwn drwy gyfraniadau Adran 106, sef taliadau a wneir gan ddatblygwyr i liniaru effeithiau eu cynigion fel projectau tai newydd.
 
Gellir eu defnyddio i wella trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded neu feicio, adeiladu mannau chwarae, darparu cyfleusterau addysgol neu at amrywiaeth o ddibenion eraill.
 
Mae projectau diweddar a gyflwynwyd gan ddefnyddio'r cyfraniadau hyn yn cynnwys y man chwarae newydd poblogaidd yn Murchfield, Dinas Powys a gwelliannau i’r ardaloedd cyhoeddus yn Plassey Street a Windsor Road, Penarth.
 
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn y Fro o fudd i'r gymuned leol a ffordd effeithiol o wneud hyn yw drwy gyfraniadau Adran 106.
 
"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, sicrhawyd symiau sylweddol o arian gan ddatblygwyr i'w rhoi tuag at ddefnyddiau cymunedol.
 
"Mae'r rhain wedi ein helpu i adeiladu ysgolion, adnewyddu mannau chwarae, uwchraddio cysylltiadau trafnidiaeth a chwblhau llu o brojectau eraill.
 
"Mae'r gwaith hwn yn barhaus a bydd mwy o arian yn cael ei ddyrannu i gynlluniau tebyg yn y dyfodol agos."This money was secured through Section 106 contributions, which are payments made by developers to mitigate the impacts of their proposals like new housing projects.
 
They can be used to improve public transport, walking or cycling routes, building play areas, providing educational facilities or be put to a range of other uses.
 
Recent projects delivered using these contributions include the popular new play area at Murchfield, Dinas Powys and public realm improvements at Plassey Street and Windsor Road, Penarth.

Cllr Lis Burnett, Vale of Glamorgan Council Cabinet Member for Education and Regeneration, said: “We work hard to ensure any development in the Vale benefits the local community and an effective way to do this is through Section 106 contributions.
 
“Over the last few years, significant sums of money have been secured from developers to be put towards community uses.
 
“These have helped us build schools, refurbish play areas, upgrade transport links and complete a host of other projects.
 
“This work is ongoing and more money is set to be allocated to similar schemes in the near future.”