Cost of Living Support Icon

 

Arwr yr Enfys yn cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Gofal Cenedlaethol 2020

Mae un o gyflogeion Cyngor Bro Morgannwg wedi’i enwebu yn rownd derfynol y Gwobrau Gofal Cenedlaethol yn y categori Gweithiwr Cadw Tŷ 2020.

 

  • Dydd Mercher, 04 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



 Mae Jackie wedi gweithio yng nghartref preswyl y Cyngor, Cartref Porthceri, ers 15 mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa fel cynorthwyydd cegin ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd domestig. 

 

Ers hynny mae wedi cael ei chydnabod am ei gwaith ar sawl achlysur, gan gynnwys yng ngwobrau We Care Wales am Wasanaethau Eithriadol ym mis Chwefror eleni. 

Dywedodd y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae pob un o'n staff cartrefi preswyl wedi mynd yr ail filltir eleni, gan roi gofal i’r aelodau mwyaf agored i niwed yng nghymdeithas mewn amgylchiadau eithriadol. 

 

"Mae enwebiad Jackie yn haeddiannol iawn, fel rhywun sydd â hanes o berfformio uwchlaw'r hyn a ddisgwylir.  Dymunaf bob lwc iddi ar y noson wobrwyo." 

Mae'r Gwobrau Gofal Cenedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan gylchgrawn Caring Times, cylchgrawn rheoli ar gyfer y sector gofal cymdeithasol. Mae Caring Times yn adlewyrchu barn y sector gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar newyddion sy'n effeithio ar ddarparwyr gofal nyrsio a phreswyl preifat, cyhoeddus a dielw.  

 

Lluniwyd y Gwobrau i amlygu’r bobl orau yn y sector gofal hirdymor, drwy dynnu sylw at ragoriaeth a gwobrwyo'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i roi gofal eithriadol yn gyson.

 

Cynhelir y seremoni Noson Gala a Gwobrwyo yn rhithwir ar 25 Tachwedd 2020.