Cost of Living Support Icon

 

Safle profi dros dro ar gyfer coronafeirws i agor yn y Barri

Bydd cyfleuster profi COVID-19 galw heibio yn agor yng nghanol tref y Barri mewn ymateb i nifer yr achosion sy'n codi'n gyflym ym Mro Morgannwg.  

 

  • Dydd Mercher, 04 Mis Tachwedd 2020

    Bro Morgannwg



Bydd y cyfleuster dros dro, sydd wedi'i leoli yn yr Oriel Gelf Ganolog yn Sgwâr y Brenin, yn cynnig mynediad hawdd at brofion i'r rhai sy'n byw yn y dref, a 06720 - Covid Test Barryphoblogaeth ehangach y Fro.   

 

Bydd y ganolfan brofi galw heibio ar agor i'r cyhoedd o ddydd Iau 05 Tachwedd.   

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro: "Dros yr wythnos ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn achosion ymhlith pob grŵp oedran yn y Fro.  

 

"Mae'n hanfodol bwysig bod pawb sy’n dangos symptomau Coronafeirws yn hunanynysu ac yn trefnu prawf iddyn nhw’u hunain ar unwaith. Dyma sut y gallwn atal lledaeniad y feirws gyda phob un ohonom yn chwarae rhan yn y gwaith o amddiffyn ein teuluoedd, ein cymdogion a'n cymunedau lleol." 

 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae cyfradd gynyddol COVID-19 yn y Fro yn bryder amlwg.   

 

"Mae safle profi'r Barri wedi'i sefydlu i'w gwneud mor hawdd â phosibl i drigolion y Fro gael eu profi.   

 

"Mae ei sefydlu mor gyflym yn glod i'r bartneriaeth effeithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r Cyngor."  

Mae'r uned brofi dros dro yn safle galw heibio. Bydd yn gweithredu rhwng 9am a 5pm o 05 Tachwedd a bydd ar waith i ddechrau am saith diwrnod.   

 

Dim ond i’r rhai sydd â symptomau Coronafeirws – tymheredd uchel, peswch newydd, parhaus, neu golli’r gallu i arogli neu flasu, neu newid yn y gallu hwnnw - y bydd y profion ar gael. 

 

Dylai pobl â symptomau drefnu profion yn y ffordd arferol drwy ffonio 119 neu ar-lein.

 

Archebu Prawf